Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:05 27/10/2022
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn rhybuddio cefnogwyr pêl-droed o weithredu 'cadarn' yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith wrth iddyn nhw gynyddu patrolau ar lwybrau allweddol yn Bolton.
Mae nifer o bobl wedi cael eu hadnabod ac yn cael eu hymchwilio am droseddau trefn gyhoeddus ac ymosodiad ar ôl i drais dorri allan yn dilyn gemau cartref Bolton yn ddiweddar.
Mae mwy o batrolau amlygrwydd uchel a chudd yn digwydd ar lwybrau allweddol mewn ymgais i atal digwyddiadau pellach.
Mae ymchwiliadau'n parhau i adnabod gweddill yr unigolion dan amheuaeth sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â phêl-droed ar fwrdd gwasanaeth trên o Horwich Parkway i Bolton ac yng Ngorsaf Reilffordd Bolton ar ôl y gêm rhwng Bolton Wanderers a Peterborough yn ddiweddar ar 17 Medi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig hefyd wedi ymuno â chydweithwyr yn Heddlu Manceinion Fwyaf, Transport for Greater Manchester a Northern, i rybuddio'r rhai sy'n creu trafferthion mai dim ond mater o amser yw hi cyn i'r rhai sy'n gyfrifol gael eu dal.
Gallai unrhyw un sydd wedi ei gyhuddo o drosedd sy'n gysylltiedig â phêl-droed wynebu gorchymyn gwahardd pêl-droed a methu â mynychu gemau'r dyfodol yng Nghlwb Pêl-droed Bolton Wanderers.
Dywedodd y Cwnstabl Andrew Margerison: "Gadewch i ni fod yn glir - ni fyddwn yn goddef ymddygiad hurt ambell un sy'n difetha'r diwrnod ar gyfer cefnogwyr pêl-droed go iawn yn ogystal ag unrhyw deithwyr eraill ar y rhwydwaith.
"Bydd BTP yn cymryd safbwynt cadarn ar yr unigolion hynny sydd â'u bryd ar weithredu mewn modd gwrthgymdeithasol a cheisio teithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd heb docyn dilys ar gyfer eu taith.
"Os ydych chi'n gefnogwr pêl-droed go iawn rydych chi eisiau gweld eich tîm yn chwarae - peidiwch â mentro cael eich gadael ar y fainc oherwydd eiliad o wallgofrwydd."
Dywedodd Chris Jackson, cyfarwyddwr rhanbarthol Northern: "Ni fyddwn yn goddef ymddygiad camdriniol tuag at unrhyw un o'n cydweithwyr a byddwn yn gweithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i sicrhau amgylchedd diogel i bawb sy'n teithio ar y rheilffordd."
Dywedodd Kate Green, Rheolwr Partneriaeth TravelSafe TfGM: "Mae gemau pêl-droed yn cael eu mwynhau gan bobl o bob oed, gan gynnwys teuluoedd, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Manceinion Fwyaf
"Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys fandaliaeth ar gerbydau neu isadeiledd gorsafoedd, yn ogystal ag ymddygiad sy'n dychryn teithwyr a staff ar draws y rhwydwaith.
"Bydd y Bartneriaeth TravelSafe yn parhau i weithio ochr yn ochr â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau'r rhai sy'n teithio i ac o leoliadau ar draws Manceinion Fwyaf, gan gynnwys ar ddiwrnodau gemau yn Bolton."