Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymgyrch yn erbyn troseddau cyllyll ar draws gogledd Lloegr, fe fu swyddogion BTP yn atafaelu cyllyll a gynnau ffug.
Fel rhan o Ymgyrch Sceptre, menter heddlu genedlaethol i fynd i’r afael â throseddau cyllyll, cynhaliodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) 20 o ymgyrchoedd ar draws rhanbarth y Penwynion a gwneud 14 arestiad dros ddydd Iau a dydd Gwener 18/19 Mai.
Fe wnaeth BTP ymuno â’r swyddfa gartref i anfon neges glir at unrhyw un sy’n cario arfau ar y rhwydwaith rheilffyrdd – rydym un cam ar y blaen ac mae gennym yr adnoddau i roi terfyn ar eich gweithgarwch troseddol a dod â chi gerbron y llysoedd.
Defnyddiwyd amrywiaeth o dactegau gan gynnwys bwâu cyllyll, cŵn heddlu a phatrolau dillad plaen fel rhan o'r ymgyrch.
Roedd yr arfau a atafaelwyd yn cynnwys dwy gyllell, dau arf tanio ffug, dyrnau haearn, bat pêl-fas a morthwyl.
Dywedodd yr Arolygydd Pete Wilcock: “Rydym yn gobeithio bod hyn yn anfon neges o sicrwydd i ddefnyddwyr y rheilffyrdd bod yr arfau hyn bellach oddi ar y rhwydwaith ond hefyd yn neges gref i droseddwyr bod eu dyddiau wedi’u rhifo.
“Nid yw’r patrolau hyn wedi’u cyfyngu i un wythnos – bob dydd o’r flwyddyn rydym yn patrolio’r rhwydwaith rheilffyrdd a gall cŵn heddlu a bwâu cyllyll ymddangos unrhyw le ar unrhyw adeg – rydym yr un mor anrhagweladwy â’r troseddwr.”
Yn ogystal, addysgwyd oddeutu 200 o blant oed ysgol ar effaith troseddau cyllyll, a chafwyd 70 o ymwelwyr pellach â’r Knife Angel yn Crewe.
Ychwanegodd yr Arolygydd Wilcock: “Fe wnaeth y digwyddiad yn Crewe addysgu’r genhedlaeth iau am beryglon cario cyllell a’r goblygiadau. Fe wnaethom fynd i’r afael hefyd â rhai o achosion sylfaenol troseddau cyllyll a helpu i gefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus. Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn rhan sylweddol o’n gwaith, gan helpu pobl ifanc i symud oddi wrth drais ac ymwneud â gweithgareddau gangiau.”
Mae Ymgyrch Sceptre yn dod â phob un o’r 43 heddlu ar draws Cymru a Lloegr ynghyd mewn wythnos o weithredu dwysach gyda heddluoedd yn cydlynu gweithgarwch sy’n targedu troseddau cyllyll o’r gwraidd achos hyd at orfodi.