Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
07:37 04/11/2021
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cau'n dyn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol ger Sheffield ar ôl cyfres o ddigwyddiadau yn ymwneud â difrod troseddol a fandaliaeth
Mae swyddogion wedi ymweld ag ysgolion yn ardal Ecclesfield i gyflwyno neges galed i bobl ifanc yn ogystal â'u rhybuddio am beryglon tresmasu ar y rheilffordd.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae digwyddiadau yn ardal Butterthwaite Lane wedi cynyddu o dresmasu a thaflu cerrig i ddigwyddiadau mwy difrifol lle mae trenau wedi taro gwrthrychau mawr, megis trolïau siopa, paneli ffensys ac ysgolion.
Mae mwy o batrolau yn digwydd yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion dillad plaen.
Dywedodd PC Darren Martin: “Mae digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol yn achosi pryder mawr. Nid yw gosod eitemau ar y lein a thaflu cerrig yn faterion dibwys - gallai rhywun gael ei frifo’n ddifrifol a hyd yn oed achosi dadreilio ar wahân i’r tarfu ar deithiau i gannoedd o deithwyr.
“Diogelwch teithwyr a staff y rheilffordd yw ein blaenoriaeth a dyna pam rydym yn cynyddu adnoddau yn yr ardal a bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal wrthi'n cyflawni difrod troseddol yn cael ei ddwyn gerbron y llysoedd.”
Mae tresmasu ar y rheilffordd yn cyflwyno ei risgiau ei hun. Bob blwyddyn mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn delio â channoedd o ddigwyddiadau sy'n aml yn arwain at ganlyniadau trasig neu anafiadau sy'n newid bywyd.
Ychwanegodd PC Martin: “Nid yw’r rheilffordd yn faes chwarae - mae dan waharddiad yn llwyr. Rwy’n annog rhieni i wirio ble mae eu plant yn eu harddegau a’u hatgoffa o beryglon loetran o gwmpas ger rheilffyrdd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Alison Evans o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Gall tresmasu ar y rheilffordd arwain at ganlyniadau difrifol a all newid bywyd i’r unigolyn, ei anwyliaid a’r gymuned ehangach. Arhoswch i ffwrdd o'r cledrau.”
Gofynnir i unrhyw un sy'n gweld rhywun yn tresmasu gysylltu trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch drawiadol, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael. Dysgwch ragor yn youvstrain.co.uk.