Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:02 11/11/2022
Yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid ar draws Chase Linee (Birmingham New Street i Walsall i Rugely), mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn cynyddu patrolau gan ddefnyddio ymgyrchoedd wedi'u targedu.
Bydd y patrolau'n cynnwys swyddogion cudd ac amlwg gyda BTP yn gweithio ochr yn ochr â West Midlands Trains a Network Rail i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau bod pawb yn gallu teithio'n ddiogel.
Dywedodd Arolygydd BTP, Paul Finlayson: "Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn gweithio'n ddiflino i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac rydym yn cynyddu ein patrolau ar draws y llinell hon gan ddefnyddio ymgyrchoedd wedi'u targedu.
"Rydyn ni angen i rieni gael rhywfaint o ymwybyddiaeth o ble mae eu plant a'u pobl ifanc. Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn eu harddegau ac mae angen gweithio gyda rhieni i sicrhau nad yw eu plant yn cymryd rhan a'u hatgoffa o'r peryglon a'r effaith bosib o fod yn ymwneud â throseddu.
"Rydym am i bobl edrych ar ôl eu hunain y tymor hwn a mwynhau eu hunain, ac rydym yn gofyn i bawb fod yn synhwyrol ac ystyriol o deithwyr eraill. Os ydyn ni'n cael ein galw allan i ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol, byddwn yn gweithredu gan fod angen i'r rheilffordd fod yn lle diogel i bawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith.
"Mae teithwyr yn parhau i fod yn llygaid ac yn glustiau i ni ac fe allan nhw ein helpu drwy rriportio troseddau a phryderon drwy decstio 61016."
Dywedodd Jonny Wiseman, cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid Rheilffordd Gorllewin Canolbarth Lloegr: "Diogelwch ein teithwyr a'n staff yw ein prif flaenoriaeth ac rwy'n croesawu'r patrolau ychwanegol hyn gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar y Chase Line mewn ymateb i gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyd y llwybr.
"Mae West Midlands Trains yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r heddlu a Network Rail ac rydym yn cefnogi'r camau wedi'u targedu hyn yn llawn i helpu i atal digwyddiadau o'r fath."
Photographed -
Area Revenue Protection and Security Officers from West Midlands Railway and two British Transport Police Officers who are working together to tackle ASB on the Chase Line.