Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:13 15/03/2021
Fe wnaeth swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ddau arestiad a chyflwyno datrysiadau cymunedol am droseddau cyffuriau yn ystod eu hymgyrch ddiweddaraf yng Ngogledd Llundain.
Mae'r ymgyrch, â'r enw cod Ymgyrch Zerda, yn gyfres o ymgyrchoedd rhagweithiol amlwg iawn ar draws rhannau gogleddol llinellau Piccadilly a Victoria
Ar ddydd Mercher 10 Mawrth, fe wnaethant ganolbwyntio ar orsafoedd Seven Sisters a Finsbury Park, gan ddefnyddio ci heddlu a swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen.
Ei phrif bwrpas yw bod yn fodd atal, gan atal dwyn, ymosodiadau a digwyddiadau eraill trwy fod yn amlwg iawn ar draws y llinellau tiwb hyn
Mae hefyd yn canfod unrhyw droseddwyr sy'n penderfynu defnyddio'r rhan honno o'r rhwydwaith reilffyrdd.
Yma mae arweinydd yr ymgyrch, yr Arolygydd Dan Rushall, yn trafod beth yw pwrpas yr ymgyrch, a sut mae'n cefnogi staff rheng flaen TfL a'r rhai sydd angen defnyddio'r rheilffordd ar hyn o bryd.
Yn ystod yr ymgyrch arestiodd swyddogion ddau berson am fod â chyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant.
Rhoddwyd datrysiadau cymunedol i ugain o bobl am fod â chyffur dosbarth B yn eu meddiant, a riportiwydwyd pedwar o bobl hefyd i ystyried eu herlyn am fod â chyffuriau dosbarth A a B yn eu meddiant.
Cefnogwyd swyddogion BTP gan Swyddogion Gorfodi Cymorth Teithio o Transport for London trwy gydol yr ymgyrch.
Mae Ymgyrch Zerda wedi bod yn rhedeg ers canol mis Ionawr ac mae'n un o'r nifer o ymgyrchoedd rhagweithiol sydd ar waith ar draws y London Underground.
Er ei bod yn ataliad sylweddol, mae hefyd yn cynorthwyo heddluoedd eraill trwy ddal troseddwyr sy'n defnyddio'r rheilffordd ac mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau a gyflawnir y tu allan i orsafoedd a threnau.
Ers iddi ddechrau, mae swyddogion wedi arestio 48 am amrywiaeth o droseddau megis bod ag arfau ymosodol yn eu meddiant, lladrad a dwyn.
Hefyd, bu 83 o ddatrysiadau y tu allan i'r llys am droseddau ar lefel is.
Mae'r ymgyrchoedd amlwg iawn hyn yn chwarae rhan fawr wrth gadw'r rheilffordd yn ddiogel. Maent yn gweithio ochr yn ochr â'r maint sylweddol o deledu cylch cyfyng ar draws y London Underground i fod yn ataliad sylweddol i unrhyw drosedd.