Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwaith Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i dynnu delio cyffuriau trwy linellau Cyffuriau oddi ar y rheilffordd wedi parhau â 140 o arestiadau ers bron i ddechrau'r cyfyngiadau ym mis Ebrill.
Mae ei Dasglu pwrpasol, a ddechreuwyd ym mis Rhagfyr â chyllid y Swyddfa Gartref, yn cyflawni ymgyrchoedd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban bron yn ddyddiol.
Ers iddo ddechrau, mae'r tîm wedi gwneud 416 o arestiadau, wedi tynnu 38 o arfau peryglus oddi ar y rheilffordd, ac wedi atafaelu symiau sylweddol o gyffuriau ac arian anghyfreithlon.
Mae digwyddiadau nodedig diweddar yn cynnwys:
Darganfuwyd 170 o lapiadau o gyffuriau dosbarth A yr amheuir eu bod wedi'u stwffio y tu mewn i dwb o Vaseline lle arestiwyd bachgen 17 oed o Lundain yng ngorsaf Basingstoke yn Hampshire ar ddydd Sul 7 Mehefin. Roedd yr arestiad wedi dilyn gwaith gan dimau Llinellau Cyffuriau BTP a Heddlu Hampshire.
Atafaelwyd oddeutu £100,000 yng ngorsaf Lime Street Lerpwl pan stopiwyd dyn canol oed yn ystod ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Heddlu Glannau Mersi ar ddydd Sadwrn 23 Mai.
Arestiwyd dyn arall, 27 oed, yng ngorsaf Lime Street Lerpwl ar ddydd Mawrth 12 Mai pan ganfuwyd pecyn o rywbeth yr amheuid ei fod yn ganabis wedi'i stwffio o dan bram ei fachgen pedwar diwrnod oed.
Delio cyffuriau Llinellau Cyffuriau yw symud cyffuriau gan gangiau o ddinasoedd i drefi llai - maent yn ecsbloetio ac yn dychryn plant neu oedolion sy'n agored i niwed i gludo'r cyffuriau, neu'r arian y mae'n ei gynhyrchu, rhwng lleoliadau, gan ddefnyddio'r rheilffordd yn aml.
Nod y Tasglu yw diogelu'r bobl sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau Llinellau Cyffuriau a thynnu'r math hwn o weithgaredd troseddol o'r rhwydwaith reilffyrdd.
Mae cyfran fawr o'r rhai sy'n cael eu harestio gan y Tasglu am droseddau cyffuriau o dan 18 oed ac mae mwy na hanner o dan 24 oed.
Yr ifancaf a arestiwyd hyd yma oedd bachgen 14 oed a gafodd ei stopio yng ngorsaf Brighton â 12 craig o grac cocên ym mis Ionawr 2020.
Gwneir ymdrechion i ddiogelu unrhyw berson bregus neu sydd wedi'i ecsbloetio sy'n cael ei arestio fel rhan o linellau Cyffuriau, gan eu hatgyfeirio i wasanaethau wedi'i creu i annog a chefnogi'r unigolyn i ffwrdd oweithgareddau troseddol peryglus.
Mae tri ar ddeg o bobl wedi cael eu hatgyfeirio i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol i'w diogelu ers i'r Tasglu ddechrau.
Dywedodd arweinydd y Tasglu, y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams: “Mae ein Tasglu mewn sefyllfa unigryw. Ni yw'r unig heddlu sy'n gweithredu'n genedlaethol, ac mae'n golygu bod gennym ddealltwriaeth ddofn o sut mae'r mater hwn yn effeithio ar gymunedau ar raddfa genedlaethol.
"Mae ein profiad wedi profi bod gangiau sy’n defnyddio’r rhwydwaith reilffyrdd yn dibynnu ar bobl iau i symud cyffuriau. Mae'r unigolion hyn yn ddioddefwyr, yn cael eu gorfodi trwy ecsbloetio neu ddychryn i fynd i mewn i sefyllfaoedd enbyd, a'n blaenoriaeth bob amser yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael a all eu cael allan o niwed ac i ffwrdd o droseddu.
“Ers mis Rhagfyr, rydym wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd yn ddyddiol, bob amser yn seiliedig ar ddatblygu cudd-wybodaeth sy’n dangos lle mae gangiau’n gweithredu. Rydym yn cael rhan o'n gwybodaeth trwy weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill, ond hefyd yn bwysig trwy gefnogaeth y diwydiant rheilffyrdd sy'n hyfforddi eu staff i nodi arwyddion o ecsbloetio.
“Mae dangosyddion allweddol yn cynnwys plentyn ifanc yn teithio pellteroedd maith, ar ei ben ei hun gyda swm mawr o arian parod, neu'n osgoi unrhyw fath o awdurdod mewn gorsafoedd. Mae'r dangosyddion hyn yn fach ond yn amhrisiadwy ac yn helpu i lywio ble rydym yn targedu nesaf. Mae dealltwriaeth esblygol o droseddu Llinellau Cyffuriau ac rydym yn barod i fynd i’r afael ag ef, lle bynnag y mae’r wybodaeth yn ein harwain. ”