Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyngor a gwybodaeth am goronafeirws (Covid-19) a'r hyn rydym yn ei wneud i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Rydym yn gweithio'n galed i'ch cadw'n ddiogel rhag coronafeirws ac rhag troseddu.
Rydym yn dal i ymateb i alwadau brys a galwadau â blaenoriaeth uchel ac mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.
Os nad yw'n argyfwng neu'n frys tecstiwch 61016 i riportio trosedd neu ddigwyddiad, neu lenwwch einffurflen ar-lein.
Mae'r rheolau'n wahanol yn dibynnu ym mha wlad rydych chi:
Fel sydd wedi digwydd drwy gydol y pandemig, bydd ein swyddogion yn parhau i fod allan ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd i gefnogi cydweithwyr y rheilffyrdd, ymgysylltu â theithwyr, ac annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb. Bydd swyddogion yn parhau â'r dull '4Es' o ymgysylltu, esbonio, annog ac, fel dewis olaf, gorfodi unrhyw ofynion cyfreithiol Coronafeirws.
Nid ydym bellach yn ymwneud â phlismona gorchuddion wyneb yn Lloegr, gan fod y ddeddfwriaeth wedi'i dileu ar 27 Ionawr 2021.
Yng nghyd-destun yr achosion o'r coronafeirws (COVID-19), mae gorchudd wyneb yn rhywbeth sy'n gorchuddio'r trwyn a'r geg yn ddiogel. Gallwch brynu gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio neu eu defnyddio'n unigol. Gallwch hefyd ddefnyddio sgarff, bandana, dilledyn crefyddol neu orchudd brethyn wedi'i wneud â llaw ond rhaid i'r rhain ffitio'n ddiogel o amgylch ochr yr wyneb.
Nid yw gorchuddion wyneb yn cael eu dosbarthu fel PPE (cyfarpar diogelu personol) a ddefnyddir mewn nifer cyfyngedig o leoliadau i amddiffyn gwisgwyr rhag peryglon a risgiau, megis masgiau llawfeddygol neu anadlyddion a ddefnyddir mewn lleoliadau meddygol a diwydiannol.
Yn hytrach, bwriedir i orchuddion wyneb amddiffyn eraill, nid y gwisgwr, rhag lledaenu'r haint am eu bod yn cwmpasu'r trwyn a'r geg, sef y prif ffynonellau trosglwyddo feirws a gadarnhawyd sy'n achosi haint coronafeirws (COVID-19).
Mae gorchuddion wyneb wedi bod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru a'r Alban ers 2020. Nid ydym bellach yn ymwneud â phlismona gorchuddion wyneb yn Lloegr, gan fod y ddeddfwriaeth wedi'i dileu ar 27 Ionawr 2021.
Bydd swyddogion ledled Cymru, Lloegr a'r Alban yn parhau â'r dull '4Es' o ymgysylltu, esbonio, annog ac, fel dewis olaf, gorfodi unrhyw ofynion cyfreithiol coronafeirws.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol reolau ledled y DU ar y gwefannau rhanbarthol perthnasol:
Mae'n debygol y bydd rhywfaint o amhariad ar wasanaethau dioddefwyr a thystion. Dylai dioddefwyr a thystion sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth gan eu darparwyr gwasanaethau lleol gysylltu â'u gwasanaeth cymorth yn y lle cyntaf. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi manylion llinellau cymorth arbenigol
Oherwydd coronafeirws ni allwch ymweld â rhywun yn y carchar ar hyn o bryd.Arhoswch gartref a defnyddiwchddulliau eraill o gysylltu â nhw.
Cysylltwch â'r carchar yn uniongyrcholos ydych am ddysgu sut mae'n gweithredu'n wahanol oherwydd y feirws.
Os ydych chi ar reithgor treial sydd wrthi, bydd yn parhau, gan ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, a bydd disgwyl i chi fod yn bresennol oni bai:
Os ydych yn diwallu un neu fwy o'r meini prawf hyn ac na allwch ymgymryd â'ch gwasanaeth rheithgor mwyach,cysylltwch â'r llys.
Os ydych chi eisoes wedi dechrau gwasanaeth rheithgor ond heb gael eich dewis ar gyfer treial eto neu os ydych wedi'ch dewis ar gyfer dyletswydd rheithgor, peidiwch â mynychu'r llys oni bai fod Swyddfa Gwysio Ganolog y Rheithgor wedi cysylltu â chi (os ydych chi'n ansicr, gallwch eu ffonio ar 0300 456 1024).
Os ydych yn dyst, gwiriwch yma am y cyngor diweddaraf.
Cyngor a gwybodaeth ynghylch coronafeirws