Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Nid yw aflonyddu rhywiol byth yn iawn. Os yw’n digwydd ar drên, tiwb neu dram gallwch riportio aflonyddu rhywiol i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Efallai y byddwch chi'n meddwl beth sy'n cyfrif fel aflonyddu rhywiol neu ddim yn siŵr a yw'r hyn sydd wedi digwydd i chi yn aflonyddu rhywiol. Gallwch riportio unrhyw fath o ymddygiad rhywiol sydd wedi gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus.
Mae adroddiadau gan deithwyr a thystion lluosog yn ein helpu i gadw pawb yn ddiogel. Efallai mai eich adroddiad chi fydd darn olaf y pos.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn patrolio gorsafoedd a’r rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae ein swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cymryd pob adroddiad o ddifrif.
Mae negeseuon testun yn cael eu monitro 24/7. Pan fydd angen, gallwn ni anfon swyddogion i gwrdd â'ch trên yn yr orsaf nesaf. Os ydych chi'n profi ymddygiad rhywiol sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus ar hyn o bryd, rydym yn eich annog i'w riportio.
Ffyrdd o riportio
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth symudol yn codi tâl bychan i decstio 61016. Bydd yn dibynnu ar eich rhwydwaith a’ch tariff, ond os ydych allan o gredyd neu wedi blocio rhifau cyfradd premiwm efallai na fyddwch yn gallu tecstio 61016.
Rydym yn gwybod y gall aflonyddu rhywiol gael effaith wirioneddol ar y rhai sy'n ei brofi neu'n ei ofni. Rydym yn gwybod y gall effeithio ar ba mor ddiogel a hyderus rydych chi'n teimlo.
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd ledled y wlad i wneud yn siŵr y gallwch deithio’n ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw fath o aflonyddu. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio ac yn gweithio ar y rheilffyrdd yn profi aflonyddu rhywiol. Ond os gwnewch hynny, dywedwch wrthym fel y gallwn ni weithredu.
Mae angen dewrder i riportio aflonyddu rhywiol ac mae'n werth riportio unrhyw beth sydd wedi gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus. Byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Nid yw unrhyw ddigwyddiad yn cael ei ystyried yn fach nac yn ddibwys. Mae ein swyddogion wedi’u hyfforddi i ymdrin â phob math o achosion.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr aflonyddu rhywiol yn derbyn gwasanaeth cyson a chefnogol ni waeth ble maent yn y wlad neu pan ydynt yn riportio'r hyn sydd wedi digwydd iddynt.
Rydym yn deall, os byddwch yn profi ymddygiad rhywiol digroeso, efallai y byddwch am anghofio amdano a symud ymlaen. Fodd bynnag, gall riportio ein helpu i'w atal rhag digwydd eto.
Dywedwch wrthym beth ddigwyddodd, ble a phryd. Cynhwyswch unrhyw fanylion a allai ein helpu i adnabod y person.
Gall cynnwys eich union leoliad yn eich neges gyntaf ein helpu i gael swyddogion atoch cyn gynted â phosibl.
Nid oes rhaid i chi gynnwys eich enw nac unrhyw fanylion adnabod yn eich testun.
Adroddiad enghreifftiol:
Wedi fy myseddu gan ddyn gwyn tal, tenau, yn gwisgo tei coch ar fwrdd y tiwb Northern Line yn teithio i'r gogledd rhwng Oval a Kennington ar ddydd Llun 19 Chwefror am 8:45am.
Efallai y byddwch chi'n meddwl tybed beth sy'n cyfrif fel aflonyddu rhywiol. Ei weld neu ei brofi, gallwch riportio unrhyw ymddygiad sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus. Er enghraifft, gallwch ei riportio os bydd rhywun yn:
Gallwch hefyd riportio gweld unrhyw un o'r ymddygiadau uchod. Nid oes rhaid i chi brofi ei fod yn drosedd neu'n weithred fwriadol i'w riportio: byddwn ni'n ymchwilio i hynny ar eich rhan
Mae ein trinwyr cysylltiadau'n monitro adroddiadau a galwadau 24/7, p'un a ydych yn adrodd trwy decstio 61016, Railway Guardian, ar-lein neu drwy ffonio 0800 40 50 40.
Os bydd angen, byddwn ni'n rhybuddio swyddogion cyfagos ac yn eu hanfon i'ch helpu. Mewn rhai achosion, gall swyddogion gwrdd â'r trên yn yr orsaf nesaf. Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwn ni'n gofyn cwestiynau penodol i chi i helpu ag ymateb cychwynnol yr heddlu. Efallai y byddwn ni'n gofyn i chi anfon delwedd o'r person rydych yn cysylltu â ni yn ei gylch.
Mewn achosion eraill, byddwn ni'n cofnodi'ch adroddiad ac efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi am ragor o wybodaeth yn ddiweddarach.
Rhoi datganiad
Ar ôl i chi wneud adroddiad, efallai y byddwn ni'n gofyn i chi wneud datganiad ffurfiol. Nid oes rhaid i chi, ond gall ein helpu i ddal y troseddwr ac atal eraill rhag profi ymddygiad rhywiol digroeso.
Does dim rhaid i chi fynd i orsaf heddlu - gallwn ni ymweld â chi lle rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus. Os ydych yn oedolyn, nid oes rhaid i chi ddweud wrth neb - ond gallwch ddod â rhywun gyda chi os dymunwch. Os ydych o dan 18 oed, bydd angen gwarcheidwad gyda chi.
Sut y gallem geisio dod o hyd i'r troseddwr
Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â'r troseddwr o flaen ei well.
Rydym yn defnyddio'ch adroddiadau i sicrhau bod ein swyddogion yn y lle iawn ar yr amser cywir. Rydym yn brwydro yn erbyn troseddau rhywiol trwy sefydlu patrymau a defnyddio dillad plaen a swyddogion heddlu mewn iwnifform. Er enghraifft, mae swyddogion dillad plaen yn patrolio ardaloedd lle rydym wedi derbyn adroddiadau lluosog.
Os byddwn ni'n arestio'r troseddwr
Os byddwn ni'n dod o hyd i'r troseddwr ac yn ei arestio, byddwn ni'n ymchwilio ymhellach ac efallai y byddwn ni'n gofyn mwy o gwestiynau i chi.
Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid cyhuddo'r person.
Mynd i'r llys
Unwaith y bydd rhywun wedi'i gyhuddo, bydd yn rhaid iddo ymddangos yn y llys. Os bydd y troseddwr yn pledio'n ddieuog, bydd gwrandawiad.
Beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn ni'n eich cefnogi drwy’r broses cyfiawnder troseddol.
Hear from someone who reported a sexual offence to British Transport Police about her experience of reporting, the police investigation and going to court.
Her story:
Yn fy achos i, roeddwn i ar y tiwb a sylweddolais fod dyn yn tolach blaen ei drowsus. Yna rhoddodd ei fysedd i fyny ei ben ôl o'm blaen. Dywedais wrtho ei fod yn warthus ac yn ffodus fe grwydrodd i ffwrdd.
Wnes i ddim riportio’r peth ar unwaith oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod yn union sut i’w brosesu a doeddwn i ddim yn siŵr i bwy i'w riportio.
Fe wnaeth cydweithiwr fy annog i'w riportio i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i am ei wneud. Roeddwn i’n poeni y byddwn i’n gwastraffu eu hamser gan na wnaeth y dyn ymosod arna i na chyffwrdd â mi.
Roedd yr hyn a wnaeth yn wirioneddol annymunol a chas. Roeddwn i'n meddwl pe byddwn i'n riportio y byddwn i'n cael fy mhatio ar fy mhen a y gwneid esgus i'w anwybyddu ac yna ni fyddai dim yn dod ohono. Roedd gen i amheuon yn fy meddwl hefyd oherwydd straeon roeddwn i wedi’u darllen am swyddogion heddlu yn niweidio menywod a’r profiadau gwael y mae rhai pobl wedi’u cael gyda’r heddlu.
Fodd bynnag, penderfynais riportio ac rwy'n falch fy mod wedi gwneud hynny. Roeddwn i'n wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cymeron nhw fy natganiad ac roedden nhw'n galonogol iawn. Ni theimlais erioed fy mod yn gwastraffu eu hamser. Dywedon nhw wrthyf pa gamau y bydden nhw'n eu cymryd a sut y bydden nhw'n ymchwilio. Gan fy mod yn gallu dweud wrthyn nhw pa drên roeddwn i arno, fe lwyddon nhw i ddod o hyd i luniau TCC o'r digwyddiad.
Ni chlywais unrhyw beth am rai misoedd a doeddwn i ddim yn meddwl y byddai'n mynd i unrhyw le.
Fodd bynnag, fe gysyllton nhw wedyn i ddweud wrthyf eu bod wedi nodi rhywun a oedd dan amheuaeth ac wedi'i arestioRoedd hyn yn golygu bod yr achos yn mynd i'r llys.
Rwy’n gwerthfawrogi os nad yw pobl am ddod ymlaen oherwydd mae rhoi tystiolaeth yn y llys yn peri straen. Rwy'n gyfreithiwr ac roeddwn i'n synnu pa mor nerfus oeddwn i.
Mae llawer o bobl yn meddwl mai dim ond ‘fflachiwr’ yw e a dydyn nhw ddim am gymryd y cam hwnnw, ond dydych chi byth yn gwybod a yw rhywun yn mynd i waethygu a phenderfynais mai mynd drwy broses y llys yw’r unig ffordd y gallwch geisio atal y bobl hyn.
Drwy gydol proses y llys, fe wnaeth swyddog heddlu roi gwybod i mi beth oedd yn digwydd a gwneud yn siŵr nad oeddwn i'n teimlo fy mod wedi fy ngadael. Daeth dau swyddog heddlu i'r llys i roi tystiolaeth gan gynnwys y swyddog a gymerodd fy natganiad gwreiddiol.
Ar y cyfan, ces i fy nghymryd o ddifrif, ces i'r wybodaeth ddiweddaraf, ac ymchwiliwyd i’r achos. Cafwyd y dyn yn euog ac ni theimlais unrhyw beth heblaw cefnogaeth a dyna’r cyfan y gallwch ofyn amdano mewn gwirionedd.
Mae academyddion yn gweithio gyda'r heddlu i wella'r ffyrdd y mae'r heddlu'n ymgysylltu â dioddefwyr trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill.
Nod rhan o’r ymchwil hwn yw deall profiadau pobl o riportio trais rhywiol.
Os ydych chi dros 18 oed, yn ddioddefwr trais neu ymosodiad rhywiol a bod heddlu yn y DU wedi ymchwilio i’ch achos, fe’ch gwahoddir i gymryd yr arolwg ar-lein dienw hwn:
https://cityunilondon.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_4GikU2bi38jO0MS
Mae’r holiadur hwn yn rhan o astudiaeth fwy ar blismona trais rhywiol sy’n cynnwys nifer o wahanol brifysgolion a heddluoedd, ac fe’i hariennir gan y Swyddfa Gartref. Mae'r holiadur hwn yn cael ei gynnal gan City, Prifysgol Llundain.