Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a phartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd yn annog y cyhoedd i beidio byth â dilyn llwybr tarw ar draws y rheilffordd.
Mae tresbasu ar y rheilffordd yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Mae risgiau cudd wrth gamu ar y traciau, gan gynnwys trenau sy'n aml yn gynt ac yn dawelach nag y mae pobl yn ei ddisgwyl, yn ogystal â rheiliau trydanol foltedd uchel a all achosi anafiadau trychinebus neu farwolaeth. Mae deall y risgiau hyn yn hanfodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Mae ymgyrch 'No Second Chances' (Dim Ail Gyfle) yn seiliedig ar fewnwelediad ac yn mynd i'r afael â chamdybiaeth gyffredin y gall pobl farnu pryd mae'n "ddiogel" croesi'r rheilffordd. Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o bobl yn rhy hyderus ger y rheilffordd ac yn tanamcangyfrif y peryglon a achosir gan drenau a seilwaith trydanol.
Mae tresbasu nid yn unig yn peryglu bywydau, ond gall hefyd achosi aflonyddwch ac oedi sylweddol ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain. Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn patrolio'r rheilffordd yn rheolaidd ac yn gweithio'n agos gyda Network Rail a phartneriaid y diwydiant i atal tresbasu a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n torri'r gyfraith.
Nodau'r ymgyrch
Nod yr ymgyrch yw:
Beth gallwch chi ei wneud
Cofiwch gadw pellter, aros yn effro ac aros yn ddiogel.
Dim Ail Gyfle
Mae ymgyrch 'No Second Chances Shortcuts' yn defnyddio negeseuon diogelwch pwerus i dynnu sylw at y canlyniadau dinistriol a all ddeillio o benderfyniad a wneir mewn ffracsiwn o eiliad.
Gall rhywbeth sy'n ymddangos fel llwybr tarw cyflym arwain at anafiadau sy'n newid bywyd, neu at farwolaeth. Nid oes taith na llwybr tarw sy'n werth peryglu eich bywyd ar ei gyfer.
Peidiwch byth â dilyn llwybr tarw ar draws y traciau. Does dim ail gyfle.