Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gennych yr holl brofiad sydd ei angen arnoch i helpu i achub bywyd
A wyddech chi y gall ychydig o fân siarad fod y cyfan sydd ei angen i ymyrryd â meddyliau hunanladdol rhywun?
Fe wnaeth y Samariaid lansio Small Talk Saves Lives [Mae Mân Siarad yn Achub Bywydau] ynghyd â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach i rymuso'r cyhoedd i ddefnyddio mân siarad i achub bywydau ar y rheilffyrdd a thu hwnt.
Mae'n beth bach ond syml. Os ydych yn credu y gallai fod angen help ar rywun, ymddiriedwch yn eich greddf a dechrau sgwrsio. Ni allwch wneud pethau'n waeth.
Pam rydym yn gwneud hyn
Mae Small Talk Saves Lives yn ymgyrch i rymuso'r cyhoedd i weithredu i atal hunanladdiad ar y rheilffyrdd a mewn lleoliadau eraill. Gellir atal hunanladdiad ac mae meddyliau hunanladdol yn aml dros dro a gellir ymyrryd â nhw. Rydym am roi'r sgiliau i gynifer o bobl â phosibl i sylwi a allai rhywun fod mewn perygl a rhoi'r hyder iddynt fynd atynt. Gall cwestiwn neu sylw syml fod y cyfan sydd ei angen i ymyrryd â meddyliau hunanladdol a chychwyn ar y daith i adferiad. Rydym yn atgoffa pobl eu bod eisoes yn gwybod sut i ddechrau sgwrs, gan roi'r hyder iddynt weithredu.
Enghraifft o bwysigrwydd ein hymgyrch yw stori Sarah. Fe wnaeth dieithryn ar blatfform trên helpu i atal Sarah rhag cymryd ei bywyd ei hun. Â chaniatâd Sarah, fe wnaethom ddefnyddio ei stori i ddatblygu cam cyntaf yr ymgyrch a dangos i eraill sut y gwnaeth mân siarad achub ei bywyd *.
*Mae enw Sarah wedi'i newid