Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein comanderiaid rhanbarthol yn rhoi eu meddyliau i ni ar sut mae eu swyddogion yn plismona rheilffyrdd Prydain, a'r heriau sy'n eu hwynebu.
Ar Adran B rydym yn parhau i ganolbwyntio ein sylw ar gynnal amgylchedd diogel i bawb sy'n teithio neu'n gweithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd a thiwbiau. Ynghyd â'n rhanddeiliaid o bob rhan o'r diwydiant, rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf - lleihau troseddu, lleihau oedi a gwella profiad teithwyr.
Gall digwyddiadau sy'n tarfu ar wasanaethau achosi problemau gwirioneddol i bartneriaid y Diwydiant ac anghyfleustra i'r cyhoedd, yn arbennig yn Llundain a De-dddwyrain Lloegr sydd â'r crynodiad uchaf o deithiau yn y DU a nifer y teithwyr sy'n cynyddu'n gyflym. Dyna pam mae lleihau tarfu yn un o'n blaenoriaethau allweddol.
Blaenoriaeth arall yw gwella hyder teithwyr trwy sicrhau bod ein swyddogion mor weladwy â phosibl a'u bod yn y lleoedd iawn ar yr amser iawn.
Ymunodd y Prif Uwcharolygydd Fry â'r gwasanaeth heddlu ym 1977, mae ganddo radd mewn plismona ac astudiaethau'r heddlu o Brifysgol Portsmouth ac mae'n Gymrawd y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Mae ei uwch rolau blaenorol o fewn BTP wedi cynnwys Pennaeth Safonau Proffesiynol, Comander yr Ardal ar gyfer Gogledd Llundain ac, yn fwy diweddar, y Pennaeth Troseddu pan arweiniodd ar nifer o ymchwiliadau mawr ac ymgyrchoedd plismona cudd.
Dilynwch Prif Uwcharolygydd Martin Fry ar Twitter
Fy nod yw datblygu a pharhau â'r lefel uchel o ymrwymiad ac arbenigedd i'n galluogi i chwarae ein rhan lawn wrth ddiwallu amcanion perfformiad a chael y gwaith yn gywir y tro cyntaf, bob tro.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i barhau i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd mor ddiogel â phosibl i'r cyhoedd a'n cydweithwyr yn y rhwydwaith.
Ymunodd Allan â ni ym 1992 yn Wolverhampton. Mae wedi gwasanaethu ledled Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn Lerpwl a Manceinion, ac fel swyddog staff i'r prif gwnstabl cyn iddo gael ei ddyrchafu'n brif arolygydd, Sector Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 2006. Yn 2012 cafodd ei ddyrchafu'n uwch-arolygydd.
Dilynwch Prif Uwcharolygydd Allan Gregory ar Twitter
Rwyf wrth fy modd i fod yn gomander eich adran ar ôl cychwyn yn yr Alban a nawr yn dychwelyd ar ôl 12 mlynedd mewn rhannau eraill o’r Llu.
Byddaf yn parhau i wella perfformiad adrannol o amgylch y canlyniadau gwych hyd yn hyn a gwneud y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i foderneiddio a gwella hyd yn oed.
Ymunodd Eddie â ni ym 1993 a daliodd amryw swyddi yn Glasgow a Chaeredin ynghyd â gweithio mewn ymgyrchoedd amrywiol yr heddlu, hyfforddi a threulio tair blynedd yn Asiantaeth Gorfodi Cyffuriau'r Alban. Cyn bod yn gomander rhanbarthol ar gyfer yr Alban, roedd Eddie yn gweithio yn Carlisle, Lerpwl a Manceinion yn bennaf fel prif arolygydd, ymgyrchoedd cyn symud ymlaen i Leeds fel comander is-ranbarthol ar gyfer Pennine [y Penwynion].