Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ‘defnyddio grym’ yn derm am amryw o dactegau plismona a all gael eu defnyddio gan swyddogion.
Dyw’r term ddim o reidrwydd yn golygu bod grym corfforol wedi cael ei ddefnyddio yn erbyn rhywun.
Mae'r term ‘defnyddio grym’ yn cynnwys ymwneud â rhywun ar lafar – sy’n cael ei alw’n gyfathrebu tactegol – rhoi pobl mewn gefynnau, eu hatal nhw’n gorfforol a defnyddio dyfais TASER neu chwistrell llidus.
Bob tro y bydd grym yn cael ei ddefnyddio (gan gynnwys cyfathrebu tactegol a gefynnau), mae ein swyddogion ni’n cofnodi'r digwyddiad. Maen nhw’n rhoi manylion y math o rym gafodd ei ddefnyddio, pam roedd angen grym, a chanlyniad y digwyddiad.
Mae swyddogion yn eu rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd a allai fod yn anodd ac yn beryglus bob dydd ac yn gorfod meddwl a gweithredu'n gyflym wrth wynebu heriau. Mae yna adegau pan fydd rhaid i swyddogion ddefnyddio rhyw fath o rym, er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel neu amddiffyn eu hunain.
Maen nhw wedi’u hyfforddi i ddefnyddio grym yn gymesur, yn gyfreithlon a dim ond pan fydd angen.
Roedd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn un o lond dwrn o heddluoedd a fu’n arloesi mewn menter newydd i sicrhau bod y defnydd o rym yn cael ei gofnodi'n gywir ac yn gyson ar draws holl heddluoedd y Deyrnas Unedig.
Drwy gofnodi'r defnydd o rym yn iawn, gallwn ddadansoddi sut mae'n cael ei ddefnyddio a chymharu rhwng heddluoedd. Mae'r ddirnadaeth hon yn ein helpu i gymharu effeithiolrwydd gwahanol dechnegau a gwella'r tactegau a'r offer rydyn ni’n eu defnyddio.
Mae hyn hefyd yn bwydo’r hyfforddiant sy’n cael ei roi i swyddogion, yn ein galluogi i sicrhau na fydd grwpiau penodol o bobl yn cael eu targedu'n anghymesur, a'n bod yn atebol os na fydd grym yn cael ei ddefnyddio’n gywir.
Bydd yn rhoi mwy o dryloywder o ran sut mae grym yn cael ei ddefnyddio a pham; yn cryfhau'r berthynas hanfodol rhwng yr heddlu a'r cyhoedd sydd wrth wraidd ein model o blismona drwy ganiatâd.
Os hoffech wneud cwyn, llenwch ein ffurflen gwyno ar-lein neu cysylltwch a ni drwy ysgrifennu at yr Adran Safonau Proffesiynol:
Professional Standards Department
British Transport Police
25 Camden Road
London
NW1 9LN
Data o 2018.
Dadansoddiadau a data o 2018.
Analaysis and Data from 2019
Analysis and Data from 2020
Analysis and Data from 2021
Analysis and Data from 2022