Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydych yn fwyaf tebygol o weld ein cwnstabliaid heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid arbennig wrth i chi deithio. Darllenwch ragor am eu rolau isod.
Mae PCs yn hawdd i'w hadnabod gan eu iwnifformaud du nodedig a'u festiau melyn llachar. Dyma'r swyddogion rydych yn fwyaf tebygol o'u gweld mewn gorsafoedd ac ar drenau, yn darparu patrolau arferol ac yn gweithredu gweithgareddau arbennig i helpu i gadw'r rheilffyrdd yn ddiogel.
Mae cwnstabliaid arbennig yn aelodau o'r cyhoedd sy'n gwirfoddoli i weithio fel PCsl yn eu hamser rhydd. Nid ydynt yn derbyn unrhyw dâl, ond maent yn hawlio treuliau, ac mae ganddynt yr un pwerau â swyddogion rheolaidd pan ydynt ar ddyletswydd
Mae cwnstabliaid arbennig yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio, ac yn cael yr un iwnifform a chyfarpar, â swyddogion rheolaidd. Maent yn rhan annatod o'n llu ac yn ein helpu i gadw'r rheilffyrdd yn ddiogel.
Mae PCSOs yn aelodau o staff yr heddlu sy'n patrolio'r rheilffordd ochr yn ochr â'n swyddogion heddlu.
Yn union fel pob un o'n swyddogion, mae gan ein PCSOs bwerau penodol o danis-ddeddfau'r rheilffyrdd.
Mae gan ein PCSOs y pŵer hefyd i ddelio â materion nad ydynt bob amser yn galw am bresenoldeb heddwas, megis atafaelu alcohol neu dybaco gan bobl ifanc, gorfodi ardaloedd ynysu a chadw neu gau allan pobl dan amheuaeth mewn rhai sefyllfaoedd.
Mae cwmnïau trenau hefyd yn cyflogi staff penodedig y rhoddir pwerau cyfyngedig iddynt o dan ein Cynllun Achredu Diogelwch Rheilffyrdd (RSAS). Maent yn gweithio'n agos gyda'n swyddogion, gan helpu i rannu gwybodaeth a gallant ddelio â rhai digwyddiadau heb fod angen cynnwys heddwas.
Mae'r staff hyn yn mynd o dan enwau amrywiol yn dibynnu ar y cwmni trenau - er enghraifft, weithiau fe'u gelwir yn swyddogion gorfodi'r rheilffyrdd neu'n swyddogion cymdogaeth y rheilffyrdd.