Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Troseddau Rhyfel yw troseddau sy’n dod o dan yr enw torfol troseddau rhyngwladol craidd. Troseddau rhyngwladol craidd yw rhai o’r troseddau mwyaf difrifol mewn cyfraith ryngwladol a gall enghreifftiau ohonynt gynnwys; y drosedd o hil-laddiad, troseddau yn erbyn dynoliaeth, troseddau rhyfel ac artaith.
Trwy gytundebau rhyngwladol mae gan y DU gyfrifoldeb i ymchwilio ac erlyn y rheini sydd wedi cyflawni troseddau rhyngwladol craidd.
Neu, fe allai fod rhai yn y DU sydd wedi bod yn dyst i neu sy’n oroeswyr troseddau o’r fath.
Os yw preswylydd yn y DU wedi bod yn gyfrifol am droseddau rhyngwladol craidd yn unrhyw le yn y byd, gall gael ei ymchwilio a’i erlyn yn y DU.
Daw enghreifftiau o droseddau rhyngwladol craidd o dan bedwar grŵp gwahanol a restrir isod.
Mae’n drosedd i swyddog cyhoeddus neu unigolyn sy’n gweithredu mewn swydd gyhoeddus beri poen neu ddioddefaint difrifol yn fwriadol i unigolyn arall wrth gyflawni neu honni cyflawni ei ddyletswyddau cyhoeddus, heb awdurdod cyfreithlon.
Mae hil-laddiad yn drosedd o dan gyfraith ryngwladol hyd yn oed os nad yw’n drosedd yn y wlad lle’i cyflawnir, ac mae anogaeth i gyflawni hil-laddiad hefyd yn drosedd.
Mae hil-laddiad yn golygu unrhyw rai o’r gweithredoedd canlynol a gyflawnir gyda’r bwriad o ddinistrio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol grŵp cenedlaethol, ethnig, hil neu grefyddol:
Erchyllterau neu dramgwyddau a gyflawnir yn erbyn unrhyw boblogaeth sifil, fel rhan o ymosodiad eang, gan gynnwys:
Os ydych wedi dioddef neu wedi bod yn dyst i droseddau rhyngwladol craidd, rhowch wybod i ni. Gallai eich gwybodaeth fod yn hollbwysig i ymchwiliad yn y DU neu ran arall o’r byd.
Gallwch hefyd helpu drwy ddarparu gwybodaeth a allai gynorthwyo i adnabod y rheini sydd wedi cyflawni troseddau rhyngwladol craidd sy’n byw yn y wlad hon a’r troseddau y gallent fod wedi’u cyflawni.
Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn gwbl gyfrinachol.
Os oes gennych wybodaeth yr ydych chi’n meddwl allai ein cynorthwyo, gallwch gysylltu â’r Tîm Troseddau Rhyfel yn y ffyrdd canlynol:
Gallwch gysylltu â’r Tîm Troseddau Rhyfel cenedlaethol yn y Met ar-lein.
Os ydych chi am riportio’n ddienw gallwch gysylltu â Crimestoppers, naill ai ar-lein neu ar ei linell gymorth am ddim 0800555111.
I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir gennym i gwmpasu atgyfeiriadau, gweler Gwasanaeth Erlyn y Goron: canllawiau cyfeirio troseddau rhyfel/troseddau yn erbyn dynoliaeth.
Rydym yn deall nad ydych efallai’n barod i sgwrsio â ni ynglŷn â beth ddigwyddodd. Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau isod gynnig cefnogaeth, cyngor a ffyrdd i riportio’r digwyddiad heb orfod siarad yn uniongyrchol â’r heddlu. Gallant drosglwyddo eich gwybodaeth i ni a gwneud yn siŵr eich bod yn aros yn ddienw.
Efallai y bydd ein partneriaid hefyd yn gallu ystyried camau eraill i’w cymryd yn erbyn tramgwyddwyr a amheuir, os nad yw erlyniad troseddol yn bosibl.
Mae’r sefydliadau canlynol yn mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Troseddau Rhyfel y DU gyda’r heddlu ac asiantaethau llywodraeth. Maent yn gweithio i roi cyfiawnder i oroeswyr troseddau rhyngwladol craidd.
Mae Redress yn ceisio cyfiawnder ac iawn ar gyfer goroeswyr artaith, mynd i’r afael ag anghosbedigaeth ar gyfer cyflawnwyr, a datblygu a hyrwyddo cydymffurfiaeth â safonau rhyngwladol.
Mae Amnest Rhyngwladol yn ymchwilio a datgelu camdriniaeth hawliau dynol ledled y byd, ac yn ymgyrchu i roi terfyn ar gamdriniaethau o’r fath.
Mae Human Rights Watch yn ymchwilio ac yn adrodd am gamdriniaethau sy’n digwydd ym mhob rhan o’r byd.
Open Society Justice Initiative
Mae Open Society Justice Initiative yn defnyddio’r gyfraith i hyrwyddo ac amddiffyn cyfiawnder a hawliau dynol.
Mae Sefydliad Helen Bamber yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi profi creulondeb dynol eithafol, megis artaith a masnachu pobl.
Mae Freedom from torture yn darparu therapi seicolegol arbenigol er mwyn helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi goroesi artaith i ymadfer ac ail-adeiladu eu bywydau yn y DU.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymchwilio ac erlyn troseddau rhyngwladol craidd ledled y byd ar wefannau’r sefydliadau hyn:
Mae’r Llys Troseddau Rhyngwladol (ICC) yn ymchwilio a rhoi ar brawf unigolion y’u cyhuddir o droseddau rhyngwladol craidd. Fel llys pan fetho popeth arall, mae’n ceisio ategu, nid disodli, Llysoedd cenedlaethol.
International, Impartial and Independent Mechanism for Syria (IIIM)
Sefydlwyd IIIM i gynorthwyo i ymchwilio ac erlyn y rheini sy’n gyfrifol am y troseddau mwyaf difrifol o dan gyfraith ryngwladol a gyflawnwyd yn Syria ers mis Mawrth 2011. Ei nod yw casglu, cadw a dadansoddi troseddau o’r fath, a pharatoi ffeiliau er mwyn cynorthwyo gydag erlyniadau mewn llysoedd cenedlaethol, rhanbarthol neu ryngwladol yn y dyfodol.
Mecanwaith Ymchwilio Annibynnol ar gyfer Myanmar (IIMM)
Mae’r IIMM wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr troseddau rhyngwladol difrifol ym Myanmar a dal tramgwyddwyr yn atebol. Wedi’i sefydlu gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2018, mae’r Mecanwaith yn ymchwilio i droseddau rhyngwladol difrifol a gyflawnwyd ym Myanmar ers 2011. Mae’n casglu, yn cadw ac yn dadansoddi tystiolaeth, ac yn paratoi ffeiliau achos i’w rhannu â llysoedd neu dribiwnlysoedd cenedlaethol, rhanbarthol neu ryngwladol perthnasol a all ddefnyddio’r wybodaeth i erlyn troseddwyr.
Rhwng mis Mehefin 2014 a mis Rhagfyr 2017, cipiodd a rheolodd ISIL adrannau mawr o diriogaeth yn Irac, gan gamddefnyddio’n ddifrifol gyfraith ryngwladol. Tîm ymchwilio yw UNITAD sydd â’r nod o gefnogi ymdrechion domestig i ddal ISIL i gyfrif drwy gasglu, cadw a storio tystiolaeth o weithredoedd a allai fod yn droseddau rhyfel, troseddau yn erbyn dynoliaeth a hil-laddiad a gyflawnwyd yn Irac.
Nod Europol yw hwyluso cydweithrediad a chydlyniad ymdrechion Aelod Wladwriaethau yr UE a Thrydydd Partïon i ganfod ac ymchwilio unigolion, rhwydweithiau a grwpiau sy’n rhan mewn cyflawni troseddau rhyngwladol craidd drwy ei Brosiect Dadansoddi (AP CIC).
Mae Eurojust yn cynnal Rhwydwaith Hil-laddiad blynyddol yr UE, er mwyn galluogi cydweithrediad agos rhwng awdurdodau cenedlaethol wrth ymchwilio ac erlyn troseddau rhyngwladol craidd. Mandad y Rhwydwaith yw sicrhau nad yw tramgwyddwyr yn cael anghosbedigaeth mewn Aelod Wladwriaethau.