Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ystod eang o droseddau gyrru, ond maen nhw’n perthyn yn bennaf i ddau gategori: gyrru’n beryglus, a gyrru’n ddiofal neu’n anystyriol.
Y drosedd o yrru'n beryglus yw pan fydd gyrru'n disgyn yn llawer is na'r safon ofynnol a ddisgwylir gan yrrwr cymwys a gofalus. Mae'n cynnwys ymddygiad a allai eich peryglu chi’ch hun neu yrwyr eraill.
Dyma enghreifftiau o yrru'n beryglus:
Mae pethau sy’n tynnu’ch sylw hefyd yn achosi gyrru peryglus, er enghraifft:
Y cosbau am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yw un i 14 mlynedd yn y carchar, a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf ddwy flynedd.
Mae'r drosedd o yrru heb ofal a sylw dyledus (gyrru'n ddiofal) yn cael ei chyflawni pan fydd eich gyrru'n is na'r safon ofynnol a ddisgwylir gan yrrwr cymwys a gofalus, ac mae'n cynnwys gyrru heb ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Dyma rai enghreifftiau o yrru'n ddiofal neu'n anystyriol:
Y cosbau am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal neu'n anystyriol yw hyd at 5 mlynedd yn y carchar, a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf flwyddyn.
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau (cyfreithiol ac anghyfreithlon) yn drosedd benodol, ond gellir barnu hefyd ei fod yn yrru'n beryglus neu'n ddiofal.
Rhagor o wybodaeth am yrru ar alcohol a chyffuriau
Mae'n drosedd:
Y cosbau am achosi marwolaeth drwy yrru tra'ch bod heb drwydded, heb yswiriant neu wedi'ch hanghymhwyso yw hyd at ddwy flynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn, neu'r ddau, a gwaharddiad rhag gyrru am o leiaf flwyddyn.
Mae defnyddio ffôn symudol neu ddyfais i’w dal yn y llaw yn drosedd benodol ond gellir barnu hefyd bod hyn yn yrru'n beryglus neu'n ddiofal.
Mae’r cosbau'n cynnwys pwyntiau ar eich trwydded a dirwy. Gallech golli’ch trwydded os ydych wedi pasio’ch prawf yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.