Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn rhedeg caffi neu fwyty efallai eich bod wedi cael y profiad o gwsmeriaid yn mwynhau un o’ch prydau, ond yna’n gadael heb dalu. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar eich busnes, ond mae ffyrdd o atal y lladron hyn. Yma fe gewch awgrymiadau defnyddiol wedi’u bwriadu i atal lladron rhag dwyn oddi arnoch.
Llai o bwyntiau gadael
Rheoli y tu allan i ardaloedd, ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid adael
Cyfarfod a chyfarch pob cwsmer
Golygfa glir o'r fynedfa o'r til
Ymgysylltwch, anogwch staff i roi sylw i'ch cwsmeriaid
Cymerwch rifau ffôn symudol a manylion cardiau credyd wrth dderbyn archebion
Ar gyfer partïon mwy heb archeb, gofynnwch am gerdyn credyd cyn eistedd y grŵp
Os oes gennych faes parcio, gwnewch yn siŵr ei fod yn drefnus, yn lân ac wedi’i oleuo’n dda gyda chilfachau parcio wedi’u marcio’n glir. Pan fo hynny’n bosibl, gosodwch system teledu cylch cyfyng - gydag arwyddion clir - a fydd yn gallu tynnu lluniau o rifau cofrestru cerbydau. Os yw darpar ladron yn teimlo bod lefel uchel o ddiogelwch y tu allan, byddant yn cymryd yn ganiataol bod hynny’n wir am y tu fewn hefyd, a byddant yn llai tebygol o geisio gadael y bwyty heb dalu.
Edrychwch ar allanfeydd eich bwyty o safbwynt diogelwch – po leiaf ohonynt, gorau oll. Os oes gennych ardal ysmygu tu allan – yn arbennig os yw ar y stryd – a bod holl aelodau’r criw sy’n bwyta y tu allan, yna mae’n haws iddynt adael. Gwnewch yn siŵr bod eich staff yn patrolio’r ardal a bod gennych wyliadwriaeth dda o’r gofodau tu allan o du fewn i’r adeilad.
Argymhellir eich bod yn gosod teledu cylch cyfyng yn eich bwyty a bod hwnnw’n gweld pob allanfa. Mae hyn yn atal troseddu, a hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid a staff. I gael cyngor a gwybodaeth am gyflenwyr teledu cylch cyfyng cymeradwyedig ewch i Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol a’r Bwrdd Archwilio Systemau Diogelwch a Larymau.
Drwy gwrdd a chyfarch pob cwsmer, ac felly sylwi ar eu hwynebau, rydych yn dangos lefel uchel o ofal cwsmeriaid - a fydd o bosibl yn gwneud darpar leidr yn llai tebygol o adael heb dalu’r bil.
Edrychwch ar leoliad y ddesg dalu. Bydd gallu gweld y fynedfa yn glir o’r ddesg dalu yn helpu i atal troseddu, ond byddwch yn ofalus ynglŷn â gosod y til ei hun yn rhy agos i’r drws ffrynt, gan y gallai hyn ei wneud yn llai diogel.
Anogwch eich staff i dalu sylw i’ch cwsmeriaid, gwneud cysylltiad llygad da ac ymgysylltu mewn sgwrs gwrtais. Y gorau fo’r gofal cwsmeriaid, lleiaf yw’r siawns y bydd rhywun yn gadael heb dalu.
Bydd llawer o fwytai yn gofyn am rif ffôn symudol pan fyddant yn derbyn archebion. Yn yr un modd, mae’r rhan fwyaf o westai nawr yn gofyn am fanylion cerdyn credyd pan fydd gwesteion yn archebu neu’n cyrraedd. Mae hi wastad yn syniad da i ffonio’r cwsmer y diwrnod cyn y dyddiad, er mwyn eu hatgoffa ac i wneud yn siŵr bod yr archeb yn un ddilys.
Os bydd criw o giniawyr yn cyrraedd heb archebu bwrdd, mae’n well gofyn am gerdyn credyd cyn bod y grŵp yn eistedd - yn arbennig grwpiau mawr.
Cofiwch mai dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud i ganfod pwy yw’r cwsmer, ac nid oes dim yn eu rhwystro rhag rhoi gwybodaeth ffug. Fodd bynnag, drwy ddilyn y cynghorion uchod, byddwch mewn gwell sefyllfa i atal pobl rhag gadael heb dalu.
Os bydd digwyddiad, ffoniwch yr heddlu cyn gynted â phosibl - nid ydym yn argymell delio â’r mater eich hun. Cofiwch eich bod chi’n atebol am eich gweithredoedd yn gyfreithiol a masnachol.