Rheilffyrdd yw'r math mwyaf diogel o deithio ym Mhrydain.
Am bob miliwn o siwrneiau ar y rheilffordd, dim ond 16 o droseddau sy'n cael eu cofnodi. Mae'r siawns y byddwch chi’n dioddef trosedd wrth ddefnyddio'r rheilffordd yn eithriadol o isel.
Ond os oes angen, gallwch gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) drwy anfon neges destun at 61016. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn sefyllfa pan nad ydych am wneud galwad neu os ydych yn methu gwneud galwad. Cadwch 61016 yn eich ffôn fel 'Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig'.
Yn yr orsaf
- Riportiwch fagiau sydd heb neb yn eu goruchwylio neu ymddygiad amheus ar unwaith i swyddog heddlu, aelod o staff y rheilffyrdd, neu drwy ffonio BTP ar 0800 40 50 40 neu decstio 61016; os nad oes gennych signal ffôn ac os na allwch ddod o hyd i swyddog heddlu neu aelod o staff, defnyddiwch un o bwyntiau cymorth yr orsaf
- Byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchoedd a chadwch eich eiddo gyda chi bob amser.
- Osgowch wrando ar glustffonau gan y gallan nhw eich atal rhag gwybod beth sy'n digwydd o'ch cwmpas.
- Yng nghyffiniau gorsafoedd rheilffordd, osgowch fannau sydd heb olau da a cheisiwch gadw o fewn golwg camerâu CCTV neu’n agos at bobl eraill.
- Dilynwch gyfarwyddiadau staff y rheilffyrdd bob amser; arhoswch y tu ôl i'r llinell felen ar y platfform a pheidiwch byth â chroesi'r cledrau.
Ar y trên
- Ar ôl codi i’r trên, dewiswch sedd mewn cerbyd lle rydych chi'n teimlo'n gyffyrddus.
- Sylwch ble mae'r larymau argyfwng a'r allanfeydd rhag ofn y bydd angen ichi eu defnyddio.
- Riportiwch fagiau sydd heb neb yn eu goruchwylio neu ymddygiad amheus ar unwaith i swyddog heddlu neu aelod o’r staff; hefyd gallwch ffonio BTP ar 0800 40 50 40 neu decstio 61016.
- Cadwch eich eiddo gyda chi bob amser neu o fewn golwg os nad yw hynny'n bosibl.
- Os ydych chi'n gadael eich sedd neu'n debygol o gysgu, cadwch eich pethau gwerthfawr gyda chi ac allan o'r golwg.
- Gwarchodwch eich preifatrwydd: gallai rhoi manylion personol ar ffôn symudol neu eu dangos ar label bagiau, dogfen neu liniadur arwain at ddwyn eich hunaniaeth neu roi gwybodaeth defnyddiol i ladron.
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio WiFi ar drên. Peidiwch ag anfon gwybodaeth breifat oni bai eich bod yn defnyddio tudalen gwe diogel (chwiliwch am https ar ddechrau cyfeiriad y tudalen gwe a chliciwch ar yr eicon clo clap i weld gosodiadau diogelwch.
Teithio yn ystod y nos
Fe ddylech chi fod mor ddiogel yn teithio ar y trên yn y nos ag ydych chi yn y dydd, ond rydym yn deall y gall hyn beri braw i rai pobl.
Mewn ymateb i alw'r cyhoedd am blismyn ar drenau yn hwyr y nos ac ar y penwythnos, mae BTP yn cynnal cyrchoedd cyson yn hwyr y nos mewn gorsafoedd ac ar wasanaethau.
Os oes arnoch angen help ar eich siwrnai yn ystod y nos, siaradwch â swyddog heddlu neu ffoniwch BTP ar 0800 40 50 40. Gallwch hefyd anfon neges destun at 61016. Cofiwch: gallwch siarad hefyd â staff y rheilffyrdd sy'n gweithio'n agos gyda'r heddlu.
Alcohol
Mae'n drosedd bod yn feddw ar drên, a gallech gael Hysbysiad Cosb am Anhrefn (PND) os ydych yn feddw neu wedi cyflawni trosedd sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Gallwn wrthod caniatâd ichi deithio hefyd os ydych yn feddw.
Yn y maes parcio
- Os ydych chi'n parcio yn yr orsaf neu gerllaw, ceisiwch ddewis lle parcio yn agos at allanfa os byddwch yn dychwelyd yn y tywyllwch.
- Cyn gadael eich cerbyd, gofalwch ei fod wedi'i gloi'n ddiogel a'ch bod yn cymryd eich holl bethau gwerthfawr gyda chi neu'n eu cloi i ffwrdd allan o'r golwg.
- Os oes rhywun yn cwrdd â chi yn yr orsaf, gofalwch eich bod yn gwybod ble y byddan nhw’n aros. Mae gan rai gorsafoedd sawl allanfa a maes parcio.
Os byddwch yn cymryd tacsi o'r orsaf, defnyddiwch gwmnïau tacsi neu finicab ag enw da yn unig.