Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddai'n well gennym bob amser weld plant a phobl ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol wrth deithio ar y rheilffordd, ond rydym yn sylweddoli y gall fod adegau pan fydd rhaid i'ch plentyn deithio ar ei ben ei hun neu gyda grŵp o ffrindiau.
Gall y rheilffordd fod yn lle peryglus. Gallwch helpu i'w paratoi. Siaradwch â nhw cyn eu siwrnai am sut i gadw'n ddiogel ar y rheilffordd ac yn agos ati a beth i'w wneud mewn argyfwng.
Dywedwch wrthyn nhw am wneud y canlynol:
chwilio am aelod o staff y rheilffyrdd neu swyddog heddlu a siarad â nhw os oes arnyn nhw angen help ar drên neu orsaf.