Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cyfraith Clare yn galluogi'r heddlu i ryddhau gwybodaeth am unrhyw hanes blaenorol o drais neu gamdriniaeth a allai fod gan berson. Mae'n golygu y gallwn ddarparu gwybodaeth sy'n helpu i amddiffyn pobl sydd mewn perygl ac atal troseddau pellach.
O dan Gyfraith Clare gallwch wneud cais am wybodaeth am:
Efallai na fyddwch chi’n gymwys i gael yr wybodaeth rydych chi eisiau ei chael. Ar ôl inni adolygu'ch cais, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a ydych chi’n gymwys ai peidio.
Sylwch: Nid cofnod troseddol llawn fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau dan gynllun Cyfraith Clare (DVDS). Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei darparu yn aml yn grynodeb, a hwnnw wedi'i olygu, a dim ond yr hyn sy'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn y person sy’n wynebu risg o niwed fydd yn cael ei roi.
Nid yw'n disodli’r canlynol: Gwiriadau’r CRB (Biwro Cofnodion Troseddol), gwiriadau’r DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), ceisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Mae unrhyw ddatgeliad yn gyfrinachol a does dim modd ei ddefnyddio mewn achos llys.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ofyn am wybodaeth o dan y gynllun datgelu camdriniaeth ddomestig yn yr Alban.
Gofyn am wybodaeth o dan Gyfraith Clare: Gwneud cais Cynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS)
Gallwch wneud cais DVDS mewn dwy ffordd: ar-lein neu mewn gorsaf heddlu.
Byddwn ni’n gofyn ichi roi:
Byddwn ni hefyd yn gofyn sut hoffech inni gysylltu â chi. Mae hyn yn golygu:
Byddwn ni hefyd yn eich holi am y person rydych chi'n gwneud cais am wybodaeth amdanyn nhw, gan gynnwys:
Cyfartaledd amser cwblhau: 15 munud.
Sylwer: Ni fyddwch yn gallu cadw eich cais wrth i chi fynd drwy’r ffurflen; bydd gennych ddwy awr i gwblhau pob cam o’r ffurflen cyn y bydd yr amser yn dod i ben.
Cliciwch 'Dechrau' isod i gychwyn eich cais.
Gallwch fynd i unrhyw orsaf heddlu i wneud cais. Bydd swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu yn cymryd ychydig o fanylion ac yn sgwrsio gyda chi am y camau nesaf.
Rydyn ni’n anelu at wneud adolygiad cychwynnol o'r cais o fewn 24 awr er mwyn asesu:
Os gall eich cais barhau, byddwn yn ei anfon at y tîm neu'r uned gywir. Byddan nhw’n anelu at gysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i drefnu cyfarfod, naill ai'n bersonol neu drwy alwad fideo.
Yn y cyfarfod, bydd angen ichi ddangos prawf o bwy ydych chi. Pasbort neu drwydded yrru sydd orau. Os nad yw’r rhain gennych chi, efallai y byddwn ni’n derbyn ID llun arall neu ddogfennau fel tystysgrif eni, bil cyfleustodau, neu gyfriflen banc.
Dim ond gyda'r person sy’n wynebu risg o gael niwed y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth, neu'r person sydd yn y sefyllfa orau i amddiffyn y person yna rhag niwed. Os penderfynwn ni rannu gwybodaeth, byddwn yn gwneud hynny ar lafar. Dydyn ni ddim yn rhannu copïau ysgrifenedig o'r datgeliad.
Os ydyn ni’n credu bod rhywun yn wynebu risg, neu os byddwch chi'n dweud wrthon ni fod trosedd wedi digwydd, efallai y byddwn ni neu'n hasiantaethau partner yn gweithredu ar unwaith. Mae camdriniaeth ddomestig yn drosedd.
Rydyn ni’n anelu at gwblhau ceisiadau o fewn 28 diwrnod gwaith. Efallai y bydd rhesymau pam mae’n cymryd mwy na hyn. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi.
Os ydych chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl, neu eich bod yn amau neu’n gwybod am gam-drin domestig sy’n digwydd, ffoniwch ni ar 101 neu ei riportio ar-lein.
Dechrau