Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y gwasanaeth hwn yn eich helpu i riportio treisio ac ymosod rhywiol, a throseddau rhywiol eraill fel dinoethi anweddus ac uwchsbecian. Gallwch riportio aflonyddu rhywiol drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn hefyd.
Yn gyntaf, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau ichi i sicrhau mai riportio ar-lein yw’r cam cywir i chi, ac er mwyn inni roi'r ffurflen gywir ichi i’w llenwi.
Wedyn byddwch yn llenwi’r adroddiad ei hun.
Bydd hyn yn cymryd rhyw 20 i 30 o funudau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel i gymryd yr amser hwnnw.
Ni fyddwn yn eich barnu, byddwn yn eich trin â pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch lles chi yn gyntaf.
Gallwch riportio rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, neu i rywun arall. Gallwch riportio’n ddienw, heb roi eich manylion inni.
Defnyddiwch y botwm 'Allanfa gyflym' os oes angen. Bydd hwnnw’n cau'r wefan hon ac yn agor peiriant chwilio Google. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei chadw ac ni fydd hi’n cael ei hanfon atom.