Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Beth sy'n gwahanu rhyw neu anwyldeb o dreisio neu ymosodiad rhywiol? Yr ateb yw cydsyniad.
Ystyr cydsyniad yw cytuno i'r hyn sy'n digwydd drwy ddewis, a bod â’r rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw neu ei newid.
I gael rhagor o wybodaeth am gydsyniad, ewch i wefan Consent is Everything.
Mae yna lawer o fythau cyffredin ynghylch treisio ac ymosod rhywiol a allai atal pobl rhag sicrhau’r help angenrheidiol neu rhag riportio’r peth.
Dydyn ni ddim yn credu'r mythau hyn ac ni fyddwn yn eich amau o’u hachos nhw.