Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Rydw i wedi colli eitem yn rhywle
Os nad ydych chi’n siŵr lle gwnaethoch golli’r eitem, ceisiwch chwilio mewn mannau yr ydych wedi bod ynddynt yn ddiweddar a holwch mewn unrhyw siopau neu gaffis cyfagos os oes rhywun wedi dod o hyd iddi ac wedi’i gadael gyda hwy.
Ar gyfer pasbortau neu drwyddedau gyrru y DU, riportio am y golled wrth y Swyddfa Basbort neu’r DVLA.
Yn achos pasbortau, cardiau adnabod a thrwyddedau gyrru tramor, riportiwch y golled i ni mewn gorsaf heddlu. Defnyddiwch y chwiliwr isod i ddod o hyd i'r orsaf agosaf at y lle y cafodd yr eitem ei cholli.
Ar gyfer cardiau banc neu ddogfennau swyddogol eraill, megis tystysgrifau geni a datganiadau banc, riportio y golled i'r swyddfa a'i cyhoeddodd.
Os yw’n un o’r eitemau canlynol yna efallai ei bod wedi cael ei rhoi i ni, felly holwch mewn unrhyw orsaf heddlu yn yr ardal:
Os nad yw’n un o’r rhain, yna mae’n annhebygol ei bod wedi cael ei rhoi i ni.