Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Mae’r eitem rydw i wedi’i cholli mewn man cyhoeddus yn werth mwy na £500 neu mae iddi werth sentimental mawr
Ar gyfer ffonau symudol, chwaraewyr MP3, cyfrifiaduron neu unrhyw offer sydd â rhif cyfresol, riportiwch am y golled yn immobilise.com.
Ar gyfer beiciau, riportiwch am y golled yn bikeregister.com.
Mae cwmnïau yswiriant ledled y wlad yn chwilio drwy adroddiadau ar y ddwy wefan.
Os ydych chi wedi colli rhywbeth sydd heb rif cyfresol, ond sy’n werth dros £500 neu sydd â gwerth sentimental (e.e. trysor teuluol), siaradwch â swyddog er mwyn gweld beth, os o gwbl, y gallwn ei wneud i helpu.