Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae StreetSafe yn wasanaeth sy’n eich galluogi i roi gwybod am bryderon diogelwch mewn mannau cyhoeddus heb roi eich enw i ni (yn ddienw). Mae hyn yn cynnwys materion fel strydoedd sydd wedi'u goleuo'n wael, adeiladau wedi'u gadael, neu fandaliaeth, yn ogystal ag achosion lle rydych chi'n teimlo'n anniogel oherwydd bod rhywun yn eich dilyn neu'n eich cam-drin ar lafar.
Sylwch: Nid adnodd i riportio trosedd neu argyfwng yw StreetSafe. Os byddwch chi'n dyst i drosedd, riportiwch y peth inni ar-lein. Os nad ydych yn siŵr a yw rhywbeth yn drosedd ai peidio, darllenwch ein cyngor.
Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd y dylid eu riportio i StreetSafe yn cynnwys lôn fach wedi'i goleuo'n wael sy'n gwneud i chi deimlo'n anniogel neu barc gydag offer wedi torri sy'n achosi perygl diogelwch.
StreetSafe
Cliciwch ar 'Mynd' isod i ddechrau.
Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano:
Byddwn yn gofyn hefyd:
Mae'r cwestiynau hyn yn ddewisol. Does dim rhaid ichi roi'r wybodaeth hon i ni, ond os gwnewch chi hynny bydd yn ein helpu i ddeall eich profiad.
Sylwch: gan fod hyn yn ddienw, wnawn ni ddim cysylltu â chi am yr hyn sydd wedi digwydd ond mae’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei defnyddio yn y penderfyniadau plismona a wnawn ni yn eich cymdogaeth. Mae’r data’n cael ei rannu hefyd gyda swyddogion y llywodraeth sy'n gyfrifol am wneud ein strydoedd yn fwy diogel (i gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n prosesu’ch data, gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd).
Os byddwch yn dewis peidio â riportio hyn i ni, gofynnwch am gymorth a chefnogaeth gan y sefydliadau a'r elusennau sy'n cynnig cyngor annibynnol am ddim.