Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:23 27/09/2022
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad ar fwrdd trên rhwng Edinburgh Waverley a Dundee yn apelio am dystion.
Fe fu'r digwyddiad ar ddydd Sadwrn 24 Medi rhwng 11.15pm a hanner nos, pan dderbyniodd swyddogion sawl adroddiad o ddyn ymosodol ar fwrdd y gwasanaeth.
Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd wrth i'r trên deithio rhwng Caeredin a Kinghorn. Cafodd y dioddefwr anafiadau i'w wyneb.
Disgrifir yr unigolyn dan amheuaeth fel dyn gwyn, 6 troedfedd o daldra ac â gwallt wedi'i liwio'n felyn. Roedd hefyd yn gwisgo crys-t oren.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i ddod ymlaen a chynorthwyo eu hymchwiliad. Os oeddech yn dyst i'r digwyddiad neu os oes gennych ragor o wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 gyda'r cyfeirnod 754 o 24/09/22.
Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.