Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:07 22/11/2022
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi rhyddhau disgrifiad o ddyn a allai helpu gyda'u hymchwiliad wedi i drosedd rywiol ddigwydd ar y trên rhwng Huntley ac Aberdeen ar 4 Tachwedd am 5pm.
Digwyddodd y drosedd ar y trên pan gredir bod y dyn dan amheuaeth wedi mastyrbio wrth wrando ar ei ffôn pan oedd yn eistedd draw o deithwraig arall. Yna gadawodd y trên yn Aberdeen.
Mae BTP yn apelio am wybodaeth ynghylch y digwyddiad ac wedi rhyddhau disgrifiad o unigolyn maen nhw'n credu a allai fod â gwybodaeth a all helpu gyda'u hymholiad.
Disgrifir y dyn fel gwyn, â chorffolaeth fach, yn ei ugeiniau cynnar, gyda gwallt sinsir, wedi'i eillio'n agos a gyda chroen gwelw. Roedd yn gwisgo crys polo caci a siaced ddu a chaci â chwfl ag arwyddlun aur, trowsus loncian du ac esgidiau du heb unrhyw hosanau. Roedd hefyd yn gwisgo clustdlws â styd yn ei glust chwith.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy ffonio 0800 40 50 40 neu drwy decstio 61016 – â'r cyfeirinod 2200114726.
Mae modd hefyd rhoi gwybodaeth yn ddienw i'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.