Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:16 02/02/2023
Mae dyn wedi ei ddedfrydu ar ôl ymosod ar dri aelod o Dîm Travel Safe ScotRail a theithwyr ar 15 Ebrill y llynedd.
Cafodd Jason Jack, 29 oed, o Shettleston Road, Glasgow, ei ddedfrydu i Orchymyn Gwneud Iawn â'r Gymuned 160 awr dros 12 mis a gorchymyn i dalu iawndal o £250 yr un i ddau o'r dioddefwyr yn
Llys Sirol Glasgow ar ddydd Llun (30 Ionawr) wedi iddo bledio'n euog i ymosod ac ymosod i anafu ar y gwasanaeth rhwng Paisley Gilmour Street a Hillington East.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wedi i Jack gael ei herio ar ei ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y trên gan aelod o'r tîm Travel Safe. Ar y pryd cafodd un aelod o staff driniaeth yn yr ysbyty a'i ryddhau y diwrnod canlynol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Martin Graham: "Ni fydd ymosodiadau ar staff trenau a theithwyr yn cael eu goddef ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
"Cafodd tri aelod o staff y rheilffordd a dyn fân anafiadau o ganlyniad i'r ymosodiad.
"Cafodd Jack ei ddal yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu.
"Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r ddau aelod dewr o'r cyhoedd a ymyrrodd ar y gwasanaeth i gynorthwyo aelodau staff ScotRail cyn i swyddogion gyrraedd y safle. Oni bai am eu hymyrraeth, gallai'r ymosodiad erchyll hwn ar aelodau staff ScotRail a oedd ond yn cyflawni eu dyletswydd, fod wedi bod yn llawer gwaeth."
Dywedodd David Lister, Cyfarwyddwr Diogelwch Peirianneg a Chynaliadwyedd Scotrail: "Mae'r euogfarn hon yn ailddatgan na fydd cam-drin staff rheilffordd, boed hynny'n drais corfforol, ymosodiad geiriol neu unrhyw ffurf arall, yn cael ei oddef ar Reilffyrdd yr Alban.
"Mae gan bawb yr hawl i fwynhau eu diwrnod mewn heddwch, a byddem yn annog unrhyw un sy'n dioddef, neu'n gweld, ymddygiad gwrthgymdeithasol i gysylltu â BTP i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn o flaen eu gwell."