Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:42 12/07/2022
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu ar ôl ymosod yn rhywiol ar fenyw yn Isffordd Buchanan Street, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dedfrydwyd Alistair McMillan, 38, o Priorscroft yn Torphichen, yn Llys Siryf Glasgow ar ddydd Gwener (8 Gorffennaf), ar gyfer adran tri, Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 ac adran 7 Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 am gyfathrebu'n anweddus.
Cafodd ef orchymyn ad-dalu cymunedol am flwyddyn a gorchmynnwyd iddo dalu £1,000 mewn iawndal.
Aeth McMillan at y fenyw ar risiau gorsaf Isffordd Buchanan Street gan ymosod yn rhywiol arni, tra'n gwneud sylwadau rhywiol anweddus tuag ati ar 10 Awst 2021.
Fe wnaeth y ddioddefwraig ei riportio i BTP a lansiodd ymchwiliad llawn wedyn.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl BTP, Andrew Shields: "Ni fydd troseddu rhywiol yn cael eu goddef o gwbl ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae gan bawb yr hawl i deithio a theimlo'n ddiogel.
"Byddwn bob amser yn cymryd adroddiadau am droseddau rhywiol o ddifrif pan fyddant yn cael eu riportio i ni. Yn yr achos hwn yn dilyn ein hapêl yn y cyfryngau, trosglwyddodd McMillan ei hun i'r heddlu. Yna, roeddem yn gallu ei ddwyn gerbron y llysoedd.
“Os ydych chi byth yn dioddef trosedd rywiol neu ymddygiad rhywiol digroeso ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gallwch ein tecstio'n gynnil ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. IMewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."