Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:17 06/10/2022
Mae dyn wedi ei garcharu am ymosod ar weithiwr siop yn Boots yng Ngorsaf Ganolog Glasgow ar y 9 Medi y llynedd.
Fe wnaeth Gary Smith, 35, o Corkerhill Place, Glasgow bledio'n euog ar y 24 Awst i ymosod a lladrata. Ar y 27 Medi, dedfrydodd barnwr yn Llys Siryf Glasgow ef 18 mis o garchar.
Ar y 9 Fis Medi y llynedd, aeth Smith i mewn i fferyllfa Boots a gweiddi ar aelodau staff ei fod eisiau diazepam. Fe wnaeth staff ymdrechion i'w dawelu, ond yna fe fwthiodd Smith ei ffordd y tu ôl i'r cownter gan chwifio cyllell tuag at staff a maglu aelod o staff y tu ôl i'r cownter gydag ef.
Yna bygythiodd i drywanu ei hun oni bai ei fod yn cael diazepam a dechreuodd gafael ar dabledi oddi ar y silff a'u rhoi yn ei geg.
Fe gyrhaeddodd swyddogion a chadw Smith a gafodd ei arestio a'i gyhuddo o ymosod a lladrata.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl y BTP Finlay Bruce: "Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod frawychus a thrawmatig i'r staff dan sylw. Er hyn, dangoson nhw ddewrder aruthrol i geisio tawelu Smith cyn i ni gyrraedd yr wyf yn eu cymeradwyo'n fawr amdano.
"Yn ogystal, sicrhaodd camau cyflym ein swyddog wrth gyrraedd na wnaeth y digwyddiad waethygu ymhellach diolch byth.
"Ni fydd y math yma o ymddygiad yn cael ei oddef a dw i'n annog unrhyw un sy'n dyst i unrhyw ddigwyddiadau fel y rhain ar y rheilffordd neu yn ein gorsafoedd i ddefnyddio ein rhif testun, 61016 i'w riportio i ni neu ffoniwch 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob tro."