Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:36 02/11/2022
Mae teulu Kaydee-Louise Lucas, 15, a fu farw'n drist ar y rheilffordd yn East Lothian heddiw yn rhoi teyrnged iddi.
Cafodd swyddogion eu galw i'r lein ger gorsaf reilffordd Dunbar am 9.54pm ar ddydd Mawrth 25 Hydref yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.
Mynychodd parafeddygon hefyd, fodd bynnag, yn anffodus cafodd Kaydee-Louise ei datgan yn farw yn y fan a'r lle. Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd ei chwaer: "Roedd Kaydee yn chwaer, modryb a nith cariadus a fydd yn byw yn ein calonnau am byth. Ni fyddwn byth yn anghofio ein merch hardd, ofalgar a bywiog.
"Disgleiria'n ddisglair fel diemwnt ein merch arbennig.
"Cei di dy garu'n wastad, chei di byth dy anghofio."
Mae teulu Kaydee-Louise wedi dewis rhyddhau'r llun hwn ohoni. Byddem yn gofyn i'r cyfryngau barchu eu preifatrwydd nawr wrth iddyn nhw ddod i delerau â'u colled drasig.