Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn apelio am dystion yn dilyn ymladd yng Ngorsaf Reilffordd Caeredin Haymarket y penwythnos diwethaf.
Ar ddydd Sadwrn 28 Awst am oddeutu 9.20pm, cyrhaeddodd trên yr orsaf o Gaeredin Waverley ar ei ffordd i Glasgow Queen Street.
Yna dechreuodd ymladd rhwng nifer o bobl ar y trên a'r platfform. Fe wnaeth yr heddlu fynychu ac mae dau ddyn, 49 a 28 oed, a dwy fenyw 38 a 22 oed, wedi’u cyhuddo o ymddygiad bygythiol a difrïol.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd i ddod ymlaen a chynorthwyo eu hymchwiliad.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y digwyddiad gysylltu â BTP drwy ffonio 0800 40 50 40 neu decstio 61016 – gyda'r cyfeirnod 548 o 26/08/23.
Gellir rhoi gwybodaeth yn ddienw hefyd i’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.