Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:38 13/05/2021
Mae dau fandal a achosodd ddifrod i stoc trenau wedi'u dedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Plediodd Kyle Mark Smith, 27 oed, o Ribble Street, Birkenhead ac Adam Metcalfe, 30 oed, o Church Road, Tranmere, yn euog i ddifrod troseddol.
Cafodd Smith, a oedd yn torri gorchymyn ymddygiad troseddol a oedd yn ei wahardd rhag mynd i mewn i rannau nad oedd yn gyhoeddus o'r rheilffordd, ei ddedfrydu ar ddydd Gwener, Mawrth 12, i bedwar mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis a'i orchymyn i wneud 120 awr o waith di-dâl a thalu gordal dioddefwr o £128.
Ymddangosodd Metcalfe gerbron Llys Ynadon Lerpwl, Knowsley a St Helens ar ddydd Mawrth, Mai 4 a chafodd ddirwy o £120 a’i orchymyn i dalu iawndal o £500 yn ogystal â gordal dioddefwr o £34.
Ar ddydd Gwener, Chwefror 12 2021, ychydig cyn 6pm, cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig eu rhybuddio bod y ddau ddyn yn chwistrellu paent graffiti ar drên llonydd yn Depo Rheilffordd Allerton.
Fe wnaeth trafodwr cŵn BTP fynychu a lleoli Smith a Metcalfe.
Roedd gan y ddau ysgeintiadau paent ar eu dillad ac roeddent yn cario sachau teithio.
Wrth eu chwilio, canfuwyd bod gan y ddau ohonynt ganiau paent chwistrell.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Paul Quest: “Nid yw graffiti yn drosedd heb ddioddefwyr - mae’n fandaliaeth ac mae ganddo ganlyniadau difrifol i deithwyr - pan yw trenau’n cael eu tynnu o wasanaeth ar gyfer atgyweiriadau a glanhau mae hyn yn arwain at oedi a chanslo.
“Mae miloedd o bunnoedd yn cael eu gwario yn atgyweirio’r difrod hwn ac mae’r goblygiadau ariannol i’r diwydiant rheilffyrdd yn enfawr.
“Byddwn yn parhau i drin graffiti ar y rheilffordd am yr hyn ydyw - difrod troseddol diangen na fydd yn cael ei oddef.”
Dywedodd Chris Jackson, Cyfarwyddwr Rhanbarthol yn Northern: “Mae graffiti'n achosi miloedd o bunnoedd o ddifrod ac yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar weithredwyr rheilffyrdd, ond hefyd ar gwsmeriaid y gall eu teithiau gael eu heffeithio pan yw trenau’n cael eu tynnu o wasanaeth i gael eu glanhau.
“Rydym yn moderneiddio sawl rhan o'r rhwydwaith Northern ac yn cael ei gynnwys yn hyn mae teledu cylch cyfyng gwell yn ein gorsafoedd, ar ein trenau ac yn ein depos. Yn ffodus gall hyn ddarparu tystiolaeth hanfodol i'n cydweithwyr yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a helpu ag ymchwiliadau fel hyn.
“Byddwn ni'n parhau i weithio gyda BTP ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”