Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:01 22/02/2021
Mae dau leidr pocedi wedi eu carcharu ar ôl iddynt gael eu dal wrthi'n trochi i bwrs menyw yng ngorsaf Danddaearol Piccadilly Circus.
Gwelodd swyddogion mewn dillad plaen, rhan o dîm dwyn rhagweithiol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y ddau ddyn yn ymddwyn yn amheus, gan gerdded yn agos y tu ôl i'r dioddefwraig.
Cyn gynted ag y ceisiodd y dynion gyrchu bag y fenyw, i ddwyn ei ffôn a chardiau banc, cawsant eu harestio ac ers hynny maent wedi cael eu dedfrydu yn y llys.
Meddai'r Prif Arolygydd Stuart Middlemas: “Mae hon yn enghraifft dda iawn o sut rydym yn gweithredu fel Heddlu, ac yn arbennig sut rydym yn plismona dwyn eiddo pobl, yr ydym yn ei gymryd o ddifrif.
“Mae ein timau arbenigol, fel y tîm dwyn rhagweithiol, yn aml yn gwisgo dillad plaen wrth batrolio, felly hyd yn oed pan na allwch ein gweld, rydym yn dal yno, wrth law ac yn barod i ymateb.” Digwyddodd y digwyddiad ar ddydd Mercher 9 Rhagfyr.
Cafodd y ddau ddyn eu dedfrydu ar ddydd Mercher 20 Ionawr.
Cafodd Walid Ferragh, 22, o Garratt Terrace yn Wandsworth, Llundain, ei garcharu am 16 wythnos, a estynnwyd i 38 wythnos yn y carchar am dorri dedfryd ohiriedig flaenorol.
Cafodd Abdul Boumssaid, 24, heb gyfeiriad sefydlog, ei garcharu am 14 wythnos a rhoddwyd dirwy o £200 iddo am fod â chanabis yn ei feddiant.