Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:52 28/04/2021
Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo ar ôl cael eu dal â 2.2kg o gocên yng ngorsaf reilffordd London St Pancras.
Ar ddydd Mercher 21 Ebrill ychydig ar ôl 10am, cafodd dau ddyn eu stopio gan swyddogion a chanfuwyd bod ganddyn nhw 2.2kg o gocên mewn dau becyn gwactod wedi'u selio, £790 mewn arian parod, a cherdyn adnabod ffug
Ymddangosodd y pâr yn Llys Ynadon Highbury ar ddydd Iau 22 Ebrill.
Cyhuddwyd Olsian Vogli, 28, heb gyfeiriad sefydlog, o feddiant â’r bwriad o gyflenwi cyffur o statws Dosbarth A, meddu ar ddogfennau adnabod â bwriad a meddu ar eiddo troseddol.
Cyhuddwyd Eugen Lila, 24, heb gyfeiriad sefydlog, o feddiant â'r bwriad o gyflenwi cyffur o statws Dosbarth A.
Maen nhw wedi'u remandio yn nalfa'r heddlu tan eu hymddangosiadau nesaf yn y llys.