Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:36 05/10/2021
Mae tri pherson wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â throseddau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern (2015) a chyflenwi cyffuriau ar ôl i fachgen 16 oed gael ei ganfod yn meddu ar gyffuriau Dosbarth A ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Cafodd ei stopio gan swyddogion o Dasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn Stratford-upon-Avon ym mis Awst.
Ymddangosodd Sean Hardiman, 36, ac Amy Lamb, 36, o Drayton Avenue, Stratford-upon-Avon, a Saddam Moussa, 19, yn Llys Ynadon Coventry ar ddydd Gwener 1 Hydref.
Cafodd y tri eu cyhuddo o Drefnu neu Hwyluso Teithio Person Arall gyda'r Bwriad o Gamfanteisio, Ymwneud â Chyflenwi Heroin ac Ymwneud â Chyflenwi Crac Cocên.
Byddant yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Warwig ar ddydd Gwener 29 Hydref.