Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:52 19/10/2020
Diweddariad: Heddiw (16 Hydref) mae llanc 17 oed wedi’i ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Louis Johnson yng ngorsaf East Croydon ar 27 Ionawr.
Cafodd ei ddedfrydu yn yr Old Bailey, a bydd yn bwrw dedfryd o 16 mlynedd o leiaf.
................................................................................
Mae llanc treisgar sy’n gysylltiedig â gangiau a drywanodd fachgen 16 oed i farwolaeth yn ystod yr oriau brig mewn gorsaf gymudo brysur wedi ei gael yn euog heddiw o lofruddiaeth.
Cafwyd llanc 17 oed yn euog o lofruddiaeth yn yr Old Bailey yn Llundain heddiw (18Medi) yn dilyn achos o bythefnos.
Ar 27 Ionawr, roedd y dioddefwr, Louis Johnson, yn teithio trwy orsaf East Croydon gyda ffrind ychydig cyn 4.30pm yn y prynhawn.
Aeth y llanc 17 oed at Louis a’i ffrind ar drosbont yr orsaf, gan dynnu cyllell fawr ‘sombi’ a guddiwyd yn ei drowsus.
Defnyddiodd hon i drywanu Louis unwaith trwy'r frest. Er gwaethaf ymdrechion gorau parafeddygon, yn anffodus iawn bu farw Louis yn y fan a’r lle o ganlyniad i’w anaf.
Gorfododd y llanc ei ffordd trwy'r rhwystr yn syth ar ôl yr ymosodiad, ac mae teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn rhedeg allan o'r orsaf yn dal i gydio yn arf y llofruddiaeth yn ei law.
Fe ildiodd ei hun i'r heddlu ddeuddydd yn ddiweddarach ar ôl teithio i Chichester. Roedd wedi eillio ei wallt hir yn ystod yr amser hwn mewn ymgais bosibl i guddio ei ymddangosiad.
Tri diwrnod ar ôl y digwyddiad, daethpwyd o hyd i gyllell a oedd yn cyfateb i’r disgrifiad o arf y llofruddiaeth mewn siop ieir yn Tooting.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 16 Hydref.
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Sam Blackburn: “Mae'n gwbl annychmygol y byddai unrhyw un yn ystyried cyflawni gweithred mor erchyll a haerllug o drais, heb sôn am yng nghefn dydd golau mewn gorsaf brysur sy'n llawn cymudwyr a phlant ysgol.
“Dim ond un ar bymtheg oed oedd Louis gyda’i holl fywyd o’i flaen, ac mae wedi gadael teulu torcalonnus ar ôl sydd, yn ddealladwy, yn dal i geisio dod i delerau â’u colled.
“Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r tystion dewr a wnaeth nid yn unig helpu i geisio achub bywyd Louis ond a ddangosodd y dewrder i ddod i’r llys ac ail-fyw digwyddiadau dirdynnol y prynhawn Llun hwnnw.”
“Er na fydd unrhyw reithfarn na dedfryd o garchar byth yn ddigon o gyfiawnder iddynt hwy, rwyf yn gobeithio y gallant gymryd peth cysur yn y ffaith bod yr unigolyn heddiw wedi’i gael yn euog ac y bydd yn awr yn treulio nifer sylweddol o flynyddoedd yn y carchar.”