Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:52 12/05/2021
Mae person ifanc yn ei arddegau a oedd yn gyfrifol am gyfres o ladradau ar drenau ledled De Llundain wedi'i ddedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Ymddangoisodd y llanc 16 oed, o South Norwood, yn Llys y Goron Woolwich ar 24 Ebrill lle plediodd yn euog i bedwar cyhuddiad o ladrad, meddu ar arf ymosodol, a dwyn o siop.
Cymerwyd chwe throsedd lladrad eraill i ystyriaeth hefyd. Fe wnaeth y barnwr ei ddedfrydu i Orchymyn Cadw a Hyfforddi am ddeunaw mis.
Mae Gorchmynion Cadw a Hyfforddi'n ddedfrydau gwarchodol ar gyfer personau ifanc o dan 17 oed, sy'n cyfuno amser a dreulir mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc gyda hyfforddiant ac addysg i atal pobl ifanc rhag aildroseddu.
Arestiwyd y llanc mewn cysylltiad â'r lladradau wedi iddo gael ei ddal yn ceisio dwyn morthwyl hollt mewn siop Wickes yn Lewisham ar 8 Chwef ror. Galwyd yr heddlu i'r siop wedi iddo honni i dditectif siop: "Dydy fy mheth ddim gyda fi ac mae gen i elynion o gwmpas yma felly mae angen hyn arnaf i amddiffyn fy hun."
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Steve Crisp: "Roedd hwn yn droseddwr mynych a phenderfynol a ladratodd chwe pherson yn haerllug o fewn tair wythnos fis Rhagfyr diwethaf.
"Mae'n fwy gwarthus eto gan ei fod ond yn 16 oed yn unig ac rwy'n falch bod y barnwr wedi rhoi dedfryd gwarchodol iddo, gan ddangos mor ddifrifol y cymerir troseddau treisgar fel y rhain.
"Mae gennym oddefgarwch sero ar gyfer arfau peryglus neu'r rhai hynny sy'n eu cludo ar y rhwydwaith rheilffyrdd a byddwn i'n annog unrhyw un sydd â phryderon wrth deithio i'n tecstio ni'n ddirgel ar 61016."