Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:02 24/05/2022
Mae dyn 18 oed wedi cael ei garcharu am ymosodiad milain ar fenyw 19 oed ar fwrdd trên, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Lewis Ellis, a oedd yn 17 oed ar adeg y digwyddiad, o Cemetary Road, Westtown, Dewsbury, yn euog i ymosodiad domestig, difrod troseddol a bygythiadau i dystion ac fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc yn Llys y Goron Leeds ar ddydd Mawrth Mai 10.
Fe'i gorchmynnwyd hefyd i dalu gordal dioddefwr o £34.
Clywodd y llys sut yr oedd Ellis, ar ddydd Sul 11 Gorffennaf y llynedd, yn eistedd wrth ymyl y ddioddefwraig yr oedd yn ei adnabod, ar drên i Leeds pan ddyrnodd hi yn ei phen dair gwaith, ei slapio dro ar ôl tro a'i phen-glinio ym mhen uchaf ei chlun. Yna brathodd ei llaw cyn cymryd ei ffôn a oedd hefyd yn cynnwys ei cherdyn banc a'i thrwydded dros dro
Yn dilyn ei arestiad, aflonyddodd Ellis dro ar ôl tro ar ei ddioddefwraig gan anfon negeseuon testun di-baid a bygythiol mewn ymgais i wneud iddi ollwng y cyhuddiadau yn ei erbyn.
Dywedodd Det Rhingyll Roy Durant: "Roedd hwn yn ymosodiad cas a digymell ar fenyw ifanc a gafodd ei gadael yn sigledig ac mewn arswyd.
"Os ydych chi'n dyst i unrhyw drosedd ar y rheilffordd, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth testun cyfrinachol 61016 i'w riportio i ni."