Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:30 07/10/2021
Mae twyllwr a wnaeth dros £29k drwy werthu tocynnau trên ffug wedi cael ei ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad hir gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Muhammed Sufi, 34 oed o York Lane, Mitcham, yn euog i dwyll drwy gynrychiolaeth ffug ac fe'i dedfrydwyd i naw mis wedi'i ohirio am ddwy flynedd a 100 awr o waith di-dâl yn Llys Troseddol Canol Llundain ar ddydd Iau, 30 Medi.
Clywodd y llys fod Sufi wedi cynhyrchu'r tocynnau LNER cyfarch ffug, a oedd yn caniatáu i'r deiliad deithio yn y dosbarth cyntaf, cyn eu gwerthu ar e-bay.
Rhoddwyd gwybod i adran dwyll LNER pan gysylltwyd â nhw i ddweud bod pedwar tocyn cerdyn crafu LNER o ddilysrwydd amheus wedi'u prynu o'r wefan Sphock.
Cafodd y twyll ei ddatgelu pan stopiwyd cwpl oedrannus diniwed a oedd wedi prynu'r tocynnau o'r gwerthwr e-bay yng ngorsaf London King's Cross ar ôl i'r rhif cyfresol ar y tocyn gael ei nodi fel un twyllodrus.
Roedd Sufi wedi agor y cyfrif ebay yn enw cyflogai LNER gyda chyfeiriadau yn Llundain a Swydd Efrog.
Mae data o gyfrif pay-pal sy'n gysylltiedig â thrafodion Sufi yn dangos trafodion gwerth cyfanswm o £29,000 sy'n gysylltiedig â gwerthu tocynnau dosbarth cyntaf LNER dros gyfnod o bum mis.
Yn seiliedig ar y pris uchaf ar yr adeg byddai hyn wedi arwain at golled bosibl i LNER o £263,840.
Dywedodd y ditectif rhingyll Karen Grave: "Roedd Sufi yn manteisio ar gynllun tocynnau cyfarch, gan dwyllo aelodau gonest o'r cyhoedd i gredu eu bod wedi talu'n deg ac yn onest am docynnau cyfreithlon.
"Nid yw twyll tocynnau yn drosedd heb ddioddefwyr – mae'r golled yn cael ei throsglwyddo i aelodau gonest o'r cyhoedd sy'n teithio.
"Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o dwyll ar y rhwydwaith trafnidiaeth a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddod â'r rhai sy'n cyflawni'r drosedd i gyfiawnder."