Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:04 02/08/2022
Mae myfyriwr llechwraidd a ddefnyddiodd y rhwydwaith rheilffyrdd i gludo dros hanner miliwn o bunnoedd o arian anghyfreithlon ledled y wlad cyn troi ei hun i mewn wedi cael ei ddedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Yuming Dong, 21 oed, sy'n gyn-fyfyriwr peirianneg, yn euog o wyngalchu arian yn Llys y Goron Manceinion. Ar ddydd Iau 28 Gorffennaf fe wnaeth barnwr ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Roedd Dong yn rhan o Gynllun Bancio Tanddaearol Tsieineaidd cymhleth a soffistigedig a oedd yn gweithredu ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Manceinion.
Gweithredodd Dong fel negesydd, gan deithio ar o leiaf ddau achlysur rhwng Llundain a Manceinion i gludo dros £400,000 o arian anghyfreithlon i'w ddefnyddio fel cronfa arian parod.
Ar un o'r achlysuron hyn, ar noson y Chwefror 4 2019, tecstiodd Dong BTP ar 61016 gan honni bod person amheus ar fwrdd y gwasanaeth yn cario cês felen fawr. Fe wnaeth swyddogion fyrddio'r trên ym Manceinion Piccadilly ac fe gafodd eu hamheuon eu cyffroi gan Dong a oedd yn ymddwyn mewn ffordd gynhyrfus. Arweiniodd hyn at ddarganfod bron i £255,000 o arian parod yn ei gês ac fe gafodd Dong ei arestio ar amheuaeth o wyngalchuu arian, gyda'r arian yn cael ei atafaelu. Datgelodd chwiliad o'i gyfeiriad ddyddiadur gyda sôn am wyngalchu arian a defnyddio tocynnau trên o ymweliadau blaenorol i Lundain i gasglu arian parod.
Profdd ymholiadau pellach a gynhaliwyd ar y rhif a ddefnyddiodd i decstio BTP faint ei ran yn y cynllwyn troseddol.
Wrth i'r ymchwiliad ddatblygu, datgelodd tystiolaeth fod ail fyfyriwr o Brifysgol Manceinion, Hong Qian Wang, wedi cyflawni rôl y banciwr yn y cynllun.
Plediodd hi'n euog i wyngalchu arian yn Llys y Goron Manceinion ar 11 Mawrth 2021 a dedfrydwyd hi i ddwy flynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Granville Sellers, o dîm Troseddau Difrifol a Threfnedig Mawr BTP: "Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth a thrwyadl a ddatgelodd weithrediad troseddol soffistigedig a oedd yn cynnwys gwyngalchu arian ar raddfa fawr a thwyll.
"Mae swm yr arian dan sylw yn syfrdanol, ond mae'n foddhaol iawn gwybod y bydd dros £250,000 o hyn nawr yn cael ei ddefnyddio fel cronfeydd yr heddlu - gan ganiatáu buddsoddiad pellach i ni i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.
"Nid yw gwyngalchu arian yn drosedd ddi-ddioddefwyr, mae'r arian dan sylw yn aml yn tarddu o weithgareddau troseddol fel delio cyffuriau a chamfanteisio. Gall atyniad arian hawdd ymddangos yn werth y risg; fodd bynnag, dylai'r dedfrydau sy'n cael eu rhoi weithredu fel rhwystr llym."