Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:22 04/05/2021
Cafwyd dau siblingyn euog o ddynladdiad ar ôl gwthio bwyd i geg dyn oedd yn cysgu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Yn dilyn achos o bythefnos, cafwyd David Noble, 34 oed, o Main Street, Grange-Over-Sands a'i chwaer Nicole Cavin, 24 oed, o Market Street, Flookburgh, yn euog yn Llys Nightingale Preston o ddynladdiad yng nghlwb pêl-droed Preston North End ar ddydd Gwener, 30 Ebrill.
Bydd y ddau'n cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Fe wnaeth y brawd a’r chwaer fwydo cig cebab i’r dioddefwr meddw 56 oed, David Clark, ar drên i Barrow ar Fawrth 2, 2019.
Clywodd y llys sut y daeth y siblingiaid, a oedd ill dau yn adnabod y dioddefwr ond wedi bod yn dychwelyd o ddiwrnod allan ar wahân, i eistedd gyda'i gilydd pan aeth y dioddefwr a'i ffrind ar yr un trên yn Lancaster.
Yn ôl tystion roedd yn ymddangos bod y dioddefwr yn cysgu pan ddechreuodd y siblingiaid roi'r cig cebab yn ei geg.
Yn y pen draw, chwydodd y dioddefwr yn anwirfoddol a deffro ond cwympodd wrth iddo geisio sefyll.
Fe wnaeth Cavin, a oedd wedi'i gyflogi fel gofalwr ar adeg y digwyddiad, dynnu ychydig o gig o geg y dioddefwr.
Pan gyrhaeddodd parafeddygon fe wnaethant dynnu mwy o fwyd o wddf y dioddefwr cyn iddo gael ei ruthro i'r ysbyty lle bu farw ar y diwrnod dilynol.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DS Gemma Jones: “Mae hwn yn achos hynod drasig ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad twymgalon at deulu’r dioddefwr David Clark.
“Rydym yn falch bod yr achos wedi’i ddwyn i derfyn o’r diwedd.”
Ychwanegodd y Ditectif brif arolygydd Steve May: “Roedd hwn yn achos cyfreithiol anarferol a chymhleth iawn ac rwy’n canmol dewrder y tystion hynny a ddaeth ymlaen a darparu datganiadau a’r rhai a fynychodd y llys i roi tystiolaeth.
“Mae urddas a thawelwch teulu Mr Clark wedi bod yn rhagorol drwyddi draw a gobeithio y gallant gymryd peth cysur o wybod bod cyfiawnder wedi’i wneud.
“Mae ein tîm ymchwilio'n haeddu sylw am eu gwaith cyson a thrylwyr i sicrhau bod yr achos hwn wedi'i ddwyn i derfyn.”
Heddiw rhyddhaodd teulu David Clark y deyrnged hon:
“Roedd David yn ŵr, tad, brawd a ffrind cariadus ac yn gymeriad poblogaidd yn y gymuned leol. Mae ei farwolaeth wedi gadael gwagle mawr yn ein bywydau.
“Hoffem ofyn i breifatrwydd ein teulu gael ei barchu ar yr adeg hon ac i ni gael caniatâd i ddod i delerau â dyfarniad heddiw ac i alaru a chofio gŵr, tad a brawd annwyl yn breifat."