Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:50 13/05/2021
Mae dyn a dargedodd fenywod unigol ac a ymosododd yn rhywiol arnynt ar drenau yng Nghanolbarth Lloegr wedi' garcharu am 48 mis yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Kwamin Mercer, 39, ac o Corporation Street, Birmingham, yn Llys y Goron Birmingham ar ddydd Mawrth 11 Mai.
Plediodd yn euog i chwe chyhuddiad o ymosodiad rhywiol trwy gyffwrdd, un cyfrif o sarhau gwedduster cyhoeddus, un cyfrif o ymosod cyffredin ac un cyfrif o gyflawni ymosodiad cyffredin â'r bwriad o gyflawni ymosodiad rhywiol perthnasol.
Fe wnaeth y barnwr ei ddedfrydu i 48 mis yn y carchar. Hefyd cafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol (SPHO) am 10 mlynedd.
Mae'r SPHO yn nodi na ddylai Mercer eistedd wrth ymyl merch anhysbys ar unrhyw gludiant cyhoeddus, na theithio ar y rhwydwaith reilffyrdd, Underground neu DLR yn y DU oni bai bod ganddo docyn dilys wedi'i brynu gan gerdyn banc sydd wedi'i gofrestru iddo.
Ar ddydd Iau 3 Medi 2020 a dydd Gwener 4 Medi 2020, ymosododd Mercer yn rhywiol ar bum merch ar drenau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Digwyddodd ei drosedd gyntaf, ar noson 3 Medi, ar fwrdd gwasanaeth wrth iddo adael Birmingham. Aeth at ddynes ar ei phen ei hun ar y trên, gan eistedd yn y sedd gyferbyn â hi cyn pwyso ymlaen a chyffwrdd â hi'n amhriodol.
Symudodd y fenyw i ffwrdd o Mercer ar unwaith a roddodd ei ddwylo yn ei bocedi trowsus ac roedd yn ymddangos fel ei fod yn mastyrbio.
Y bore diynol, rhwng 7am a 9am, ymosododd Mercer yn rhywiol ar bedair menyw arall trwy eu cyffwrdd yn amhriodol ar fwrdd gwasanaethau a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
Roedd un o'r dioddefwyr yn ferch 15 oed a oedd yn teithio i'r ysgol gyda grŵp o ffrindiau.
Fe wnaeth yr holl ddioddefwyr riportio ymddygiad Mercer yn syth wrth BTP gan ddefnyddio ei wasanaeth tecstio-i-riportio 61016.
Anfonwyd swyddogion wedi hynny, a chafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r troseddau a'i gludo i ddalfa'r heddlu i'w holi.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu BTP, Jade Ledbrook: “Dangosodd Mercer ei fod yn droseddwr mynych dros y ddau ddiwrnod hynny - roedd ei ymddygiad yn ffiaidd wrth iddo dargedu menywod dro ar ôl tro am ei foddhad rhywiol ei hun.
“Diolch i’r dioddefwyr a riportiodd ei weithredoedd cywilyddus, bydd ganddo ddigon o amser bellach ar ei ddwylo yn y carchar i fyfyrio ar ei ymddygiad rheibus.
“Mae'r effaith a gafodd Mercer ar ei ddioddefwyr wedi bod yn sylweddol, ond dangosodd y menywod ddewrder aruthrol wrth ei riportio i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth testun.
“Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n destun, neu'n dyst i, ymddygiad rhywiol digroeso ar y rheilffordd i wneud fel y gwnaeth y menywod yn yr achos hwn a'n tecstio ar 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
“Nid yw unrhyw adroddiad yn rhy fach nac yn ddibwys, a byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Mae gan bawb yr hawl i fwynhau taith ddiogel. ”