Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:56 15/06/2021
Mae troseddwr rhyw a dargedodd ddwy fenyw ifanc ar London Underground wedi cael dedfryd o 18 mis wedi'i gohirio yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Lirim Nela, 33, ac o Pickering Road, Llundain, yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mercher 28 Ebrill lle plediodd yn ddieuog i ddau gyfrif o ymosodiad rhywiol.
Ar ddydd Gwener 28 Mai, fe wnaeth barnwr a Llys y Goron Llundain Fewnol ei ddedfrydu i 18 mis o garchar, wedi'i gohirio am 24 mis. Cyhoeddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) 10 mlynedd iddo hefyd ac mae'n ofynnol iddo dalu iawndal o £500 i bob dioddefwraig.
Bydd Nela hefyd ar gyrffyw a gaiff ei fonitro'n electronig rhwng 7pm a 5am am bum mis.
Ar noson 3 Gorffennaf 2018, roedd dioddefwraig gyntaf Nela yn teithio ar fwrdd Tube Central Line ger Leyton pan oedd hi'n teimlo rhywbeth yn gwthio i mewn i'w chefn.
Parhaodd hyn cyn i'r ddioddefwraig droi o gwmpas i ddarganfod bod Nela yn gwthio ei afl i mewn i'w chefn. Yna fe'i wynebodd ac ymyrrodd aelod o'r cyhoedd i ofyn i'r ddioddefwraig aoedd hi'n iawn ac awgrymodd ei bod yn cysylltu â'r heddlu.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ar 11 Hydref 2018, gwelodd tri swyddog dillad plaen BTP ar y platfform yng ngorsaf Underground Oxford Circus fod Nela yn sefyll yn ôl ar y platfform yn arsylwi menywod o'i gwmpas.
Yna cyrhaeddodd grŵp o bobl y platfform gan fyrddio gwasanaeth Central Line tua'r dwyrain. Roedd Nela wedi byrddio'r un Tube ac fe'i dilynwyd gan y swyddogion.
Gwelodd y swyddogion Nela yn gwthio ei afl i unigolyn o fewn y grŵp – merch 15 oed. Gwelwyd hefyd ei fod yn cyffwrdd ei hun yn amhriodol dros goesau ei dracwisg ar sawl achlysur cyn i'r swyddogion ei dynnu o'r gwasanaeth.
Cafodd Nela ei arestio wedyn a'i symud i ddalfa'n heddlu lle cafodd ei gyfweld drwy gyfieithydd Eidaleg. Mewn cyfweliad, gwadodd ymosod yn rhywiol ar y ferch 15 oed a honnodd fod y swyddogion a oedd yn dystion yn camgymryd.
Cafodd ei arestio ymhellach mewn cysylltiad â'r ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd ym mis Gorffennaf 2018 gan swyddogion BTP ar ddydd Gwener 2 Tachwedd 2018.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl BTP, Ming-Xia Powell,: "Roedd ymddygiad Neal yn ffiaidd ac yn gwbl annerbyniol – gorfododd ei hun ar ddwy ddioddefwraig ar wahân am ei foddhad rhywiol ei hun.
"Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r dioddefwyr am gynorthwyo'r ymchwiliad. Roedd eu cymorth yn hanfodol i'w dwyn i gyfiawnder.
"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n dioddef ymddygiad rhywiol digroeso ar y rheilffordd, neu sy'n dyst iddo, i'w riportio i ni – nid oes yr un adroddiad yn rhy fach na dibwys a byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif.
"I wneud hyn, tecstiwch 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."