Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:48 19/03/2021
Mae uwchsgertiwr cyfresol a dargedodd ferch 17 oed ar drên yng Surrey wedi'i garcharu am 20 mis.
Ymddangosodd Leon Chan, 26, ac o Burngreave Road, Sheffield, yn Llys y Goron Sheffield ar 9 Mawrth. Fe'i cafwyd yn euog o recordio delwedd o dan ddillad i arsylwi un arall heb gydsyniad, a thorri Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO)
Fe wnaeth y Barnwr ei ddedfrydu i 20 mis yn y carchar. Gorchmynnwyd Chan hefyd i lofnodi'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am ddeng mlynedd.
Ar 1 Hydref 2020 roedd y ddioddefwraig, merch 17 oed mewn gwisg ysgol, yn teithio ar drên i Ashstead am oddeutu 3pm yn y prynhawn pan eisteddodd Chan a dechrau syllu arni.
Cododd y ddioddefwraig ac aeth i sefyll wrth ddrws y trên. Dilynodd Chan hi, gan ddal ei gamera ffôn a'i bwyntio tuag ati. Dangosodd teledu cylch cyfyng y golau ar ei gamera fel petai'n fflachio.
Yna safodd Chan wrth ei hymyl, mewn cerbyd a oedd bron yn wag fel arall, a gosod ei fag ar y llawr. Fe gwrcwdodd gan ddechrau chwilio trwy'r bag ag un llaw, a dal ei gamera ffôn tuag at goesau'r ddioddefwraig gyda'i law arall.
Symudodd y ddioddefwraig i ffwrdd ac fe’i dilynodd, gan gwrcwd i lawr eto a dal ei ffôn tuag ati. Trodd hi o gwmpas a'i ddal yn pwyntio'i gamera i fyny ei sgert.
Gadawodd Chan y trên yn Ashtead cyn ail-fyrddio'n gyflym a pharhau ar ei daith. Cipiwyd y digwyddiad ar deledu cylch cyfyng a chafodd Chan ei adnabod gan swyddogion lleol yn Sheffield a’i arestio.
Roedd Chan wedi bod yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a oedd yn ei atal rhag bod ag unrhyw ddyfais a oedd yn gallu cipio neu storio ffotograffau neu ddelweddau'n symud oni bai ei fod yn bodloni rhai amodau. Hefyd cafodd ei wahardd rhag ffilmio unrhyw fenyw heb ei chydsyniad penodol.
Roedd SHPO a dedfryd o garchar wedi'i ohirio wedi'u cyhoeddi iddo yn 2019 yn dilyn digwyddiad uwchsgertio arall yn Llundain.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Amina Khoyratee: “Mae uwchsgertio yn oresgyniad gwirioneddol erchyll o breifatrwydd a hoffwn ei gwneud yn gwbl glir y byddwn bob amser yn cymryd yr adroddiadau hyn o ddifrif.
“Mae Chan yn droseddwr mynych nad yw wedi dangos unrhyw edifeirwch trwy gydol ein hymchwiliad, felly mae’n ffodus bod ganddo ddigon o amser bellach ar ei ddwylo yn y carchar lle gall fyfyrio ar ei ymddygiad rheibus.
“Mae hon yn ddeddfwriaeth gymharol newydd, wedi'i chyflwyno yn 2019 yn unig, ond mae’r pwerau pwrpasol yn ei gwneud yn llawer haws i ni gyhuddo pobl sydd dan amheuaeth am y math goresgynnol a ffiaidd hwn o droseddu rhywiol.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dioddef uwchsgertio, neu unrhyw drosedd rywiol arall, i anfon neges destun atom yn arwahanol ar 61016 neu ffonio 999 mewn argyfwng. Nid yw unrhyw adroddiad yn rhy fach nac yn ddibwys, a byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.”