Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:50 13/08/2020
Mae ysgogydd larwm tân cyfresol a ddarostyngodd teithwyr oriau o darfu ar y London Underground dros gyfnod o ddau fis wedi cael ei ddedfrydu.
Plediodd Jeffrey Ewohime, 33, ac o Marsh Drive, Colindale, yn euog i chwe chyhuddiad o ysgogi larwm tân yn faleisus i beryglu diogelwch y rheilffordd yn fwriadol yn Llys y Goron St Albans. Plediodd yn euog hefyd i ymosod ar weithiwr brys
Ar 14 Awst dedfrydodd y barnwr ef i 13 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis. Roedd Ewohime eisoes wedi treulio saith mis yn y ddalfa yn ystod yr ymchwiliad.
Cyhoeddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol iddo hefyd yn ei wahardd rhag ysgogi unrhyw larwm tân yn fwriadol ac eithrio mewn argyfwng go iawn, neu ddefnyddio'r Underground at unrhyw bwrpas heblaw am deithio.
Dechreuodd llifeiriant Ewohime o ysgogiadau maleisus yng ngorsaf South Kensington ar 4 Mawrth eleni. Ysgogwyd dau larwm tân ar y District Line, cyn iddo symud i'r Piccadilly Line tua'r gorllewin ac ysgogi larwm tân arall.
Fe darodd eto wythnos yn ddiweddarach ar 11 Mawrth, gan wneud yr un peth yng ngorsaf Camden Town, gan achosi i deithwyr gael eu hatal rhag dod i mewn i'r orsaf am sawl munud.
Ysgogodd Ewohime larymau eraill yng ngorsaf San Steffan ym mis Mawrth, ac un arall yn South Kensington ym mis Mai.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, cafodd ei arestio a'i ddwyn i'r ddalfa. Yn ei gyfweliad â’r heddlu, honnodd nad oedd unrhyw ymadawiadau o orsafoedd o ganlyniad i’w ysgogiadau maleisus “yn broblem iddo ef.”
Dywedodd yr Arolygydd Mullah Hoque o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:“Roedd hwn yn ymddygiad gwirioneddol ddifeddwl gan unigolyn a oedd yn amlwg yn ceisio achosi cymaint o anhrefn a phanig ar yr Underground ag y gallai.
“Mae gweithrediadau maleisus fel hyn yn gwastraffu amser ac arian pawb, o deithwyr sydd wedi’u hoedi i staff TfL a swyddogion BTP sy’n gorfod ymateb
“Diolch byth ein bod yn plismona amgylchedd sydd â digonedd o deledu cylch cyfyng a wnaeth yn hawdd i ni adnabod Ewohime a dod ag ef gerbron y llysoedd.”
Dywedodd Siwan Hayward, Cyfarwyddwraig Cydymffurfedd, Plismona ac Ar y Stryd yn Transport for London (TfL),“Rydym yn croesawu euogfarn Mr Ewohime. Rydym yn gobeithio y bydd yn anfon y neges glir nad ydym yn goddef unrhyw ymddygiad ar ein rhwydwaith sy’n camddefnyddio adnoddau ein staff a’r gwasanaethau brys yn fwriadol, ac sy’n achosi gofid ac aflonyddwch diangen i deithwyr.”