Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:07 22/08/2022
Mae dyn yn wynebu 16 mis y tu ôl i fariau ar ôl iddo gael ei ddal yn mastyrbio o flaen menyw ar y London Underground, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Ymddangosodd Terence Emberson, 55, ac o Church Road, Hertford, yn Llys Ynadon Westminster ar 18 Gorffennaf, lle plediodd yn euog i un cyfrif o addinoethiad anweddus a thorri Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO), a roddwyd iddo am drosedd dinoethiad arall yn 2020.
Ar ddydd Llun 15 Awst cafodd Emberson ei ddedfrydu i 16 mis o garchar yn Llys y Goron Fewnol Llundain. Cafodd orchymyn hefyd i lofnodi'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am 10 mlynedd.
Tua 7pm ar nos Fercher 1 Mehefin, byrddiodd Emberson drên Llinell Fictoria yng ngorsaf Tottenham Hale a sylwodd y ddioddefwraig arno'n syllu i gyfeiriad dwy fenyw arall ar y cerbyd.
Yna trodd tuag ati a datgelu ei organau cenhedlu, gan syllu arni tra'r oedd yn mastyrbio o'i blaen.
Fe wnaeth swyddogion baru cyfrif y ddioddefwraig a'i disgrifiad o'r troseddwr ag Emberson yn gyflym, gan roi tystiolaeth o doriad ar ei SHPO a'i waharddodd rhag gostwng neu ddadsipio ei drowsus mewn unrhyw le cyhoeddus. Cafodd ei arestio'n ddiweddarach yn ei gartref.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl BTP Emma Martin: "Rwy'n falch o weld Emberson y tu ôl i fariau am ei weithredoedd ffiaidd a adawodd y ddioddefwraig wedi'i brawychu.
"Rhoddir Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol i amddiffyn y cyhoedd, ac mae diystyrwch amlwg Emberson o hyn yn profi ei feddylfryd rheibus.
"Ni ddylai unrhyw un ddioddef yr ymddygiad hwn wrth iddyn nhw deithio, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w ddileu.
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n profi neu'n dyst i drosedd rywiol ar y rheilffordd i'w riportio i ni drwy decstio 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob tro."