Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:33 31/05/2022
Mae dyn 76 oed a berfformiodd weithred rhyw arno'i hun ar drên llawn wedi cael ei ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd David Colin Gilbert, o Westheath Avenue, Sunderland, yn euog i ddigio gwedduster y cyhoedd mewn gwrandawiad cynharach a chafodd orchymyn cymunedol dwy flynedd ac fe'i gwnaed yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol 10 mlynedd yn Llys Ynadon Newcastle ar ddydd Mawrth, 31 Mai.
Cafodd orchymyn hefyd i dalu costau o £85, gordal dioddefwr o £95 ac iawndal o £100.
Clywodd y llys sut y gwelodd menyw a oedd yn teithio ar yr un trên, ar ddydd Sadwrn, 4 Rhagfyr y llynedd, adlewyrchiad Gilbert yn ffenestr y trên.
Gwelwyd bod gan Gilbert flaen ei drowsus ar agor ac roedd yn ceisio cuddio'r weithred rhyw gyda phapur newydd ar ei lap wrth edrych ar deithwraig fenywaidd a oedd yn cysgu.
Ychydig amser yn ddiweddarach, gwelwyd bod Gilbert yn ailadrodd y weithred rhyw tra'n edrych eto ar y fenyw.
Y tro hwn, rhybuddiodd y tyst y dyn yr oedd yn teithio gydag ef a drodd o gwmpas yn ei sedd a gweld y weithred a dweud wrth Gilbert am roi'r gorau iddi ar unwaith.
Fe wnaeth y cwpl riportio'r digwyddiad wrth swyddog heddlu nad oedd ar ddyletswydd yr oeddent yn ei adnabod a oedd mewn cerbyd gwahanol ar yr un trên. Fe wnaeth hi, ynghyd â'r rheolwr trên, wynebu Gilbert a dweud wrtho y byddai'n cael ei hebrwng o'r trên yn Newcastle.
Pan adnabyddwyd Gilbert i swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yng Ngorsaf Newcastle, cafodd ei arestio ar unwaith am ddigio gwedduster y cyhoedd a dinoethiad anweddus gan fod copish ei drowsus wedi'i ddadwneud a'i organau rhywiol wedi'u dinoethi.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DS Graham Marshall-Batey: "Mae ymddygiad anweddus a ffiaidd fel hyn yn gwbl resynus ac ni fydd yn cael ei oddef.
"Ymddygiad o'r math hwn rydym yn gweithio'n galed i'w ddileu o'r rhwydwaith rheilffyrdd.
"Mae gan bawb yr hawl i deithio ar y rhwydwaith ac mewn gorsafoedd heb fod yn destun ymddygiad ffiaidd fel hyn.
"Mae'n ddealladwy y gall ymddygiad rhywiol digroeso fel hyn wneud i ddioddefwyr deimlo'n ofnus, yn agored i niwed ac yn ddig. Roedd hwn yn ddigwyddiad a oedd yn peri pryder i bawb a oedd yn dyst iddo.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd i sicrhau bod eich taith yn parhau'n ddiogel ac yn rhydd rhag aflonyddu neu gam-drin.
"Os ydych chi ein hangen ni ar eich taith, tecstiwch ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."