Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
07:18 29/04/2021
Mae dau ddyn wedi’u dedfrydu ar ôl pledio’n euog i ymosod ar ddau frawd yng ngorsaf Caerefrog, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Danny Furniss, 34 oed, o Vernon Rise, Grassmoor, Swydd Derby, yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod a chafodd ei garcharu am 16 wythnos.
Cyfaddefodd Jordan Heath, 27 oed, o Shakespeare Street, Holmewood, Swydd Derby, un cyfrif o ymosod a derbyniodd ddedfryd ohiriedig o 16 wythnos a gorchmynnwyd iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl.
Cafodd y ddau eu dedfrydu yn Llys Ynadon Caerefrog ar ddydd Llun, Ebrill 19.
Clywodd y llys sut y digwyddodd ffrae ar lafar rhwng y pedwar ar ddydd Gwener, Rhagfyr 11 y llynedd cyn i'r brodyr gerdded i ffwrdd.
Rhedodd Furniss a Heath ar ôl y brodyr gyda Heath yn gwneud tacl rygbi ar un a achosodd iddo gwympo i’r llawr a’i ddyrnu ddwywaith yn ei ben tra bod Furniss yn dyrnu’r dioddefwr arall yn ei ben sawl gwaith, ag un dyrnod yn achosi iddo gwympo i’r llawr. Pan oedd ef ar y llawr, fe wnaeth Furniss ei slapio a'i ddyrnu sawl gwaith arall cyn cerdded draw at ei frawd a'i ddyrnu.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Chris Smith: “Gallai hyn fod wedi dod i ben yn wahanol iawn pe na byddai Furniss a Heath wedi mynd ar ôl y brodyr ac yn hytrach wedi mynd o gwmpas eu busnes o ddychwelyd adref ar ôl diwrnod allan yng Nghaerefrog. Ni fyddai Furniss yn eistedd mewn cell ac ni fyddai gan Heath gofnod troseddol yn niweidio ei enw da.
“Nid oes gan drais unrhyw le ar y rhwydwaith reilffyrdd ac ni fydd yn cael ei oddef. Mae gan bawb yr hawl i deithio heb ofni trais na enllibion.
“Os bydd unrhyw un byth yn profi ymddygiad o’r math hwn ar y rheilffordd gallant ein tecstio'n bwyllog ar 61016, neu ffonio 999 mewn argyfwng.”