Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 12/10/2022
Mae dyn 26 oed wedi cael ei ddedfrydu am gusanu bachgen 17 oed, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Shaaban Maghdid, o Ivanhoe Road, Doncaster yn euog i ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd a chafodd ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar wedi'i ohirio am 24 wythnos yn Llys Ynadon Hull ar ddydd Mawrth, 4 Hydref.
Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol pum mlynedd sy'n ei wahardd rhag mynd at, cyffwrdd neu wneud unrhyw ymgais i gyfathrebu ag unrhyw blentyn o dan 18 oed nad yw'n adnabyddus iddo
ef, mewn unrhyw le cyhoeddus gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.
Cafodd orchymyn hefyd i dalu iawndal o £100.
Clywodd y llys sut ar ddydd Sul, 22 Ionawr, aeth Maghdid at fachgen 17 oed yng Nghyfnewidfa Hull Paragon.
Ar ôl gofyn iddo a oedd yn sengl, plygodd Maghdid i lawr i gyffwrdd â gwddf y dioddefwr cyn ei dynnu i mewn i'w gorff a cheisio ei gusanu.
Ceisiodd y dioddefwr droi ei wyneb i ffwrdd o Maghdid felly ni allai ei gusanu ar y gwefusau yn hytrach fe wnaeth ei gusanu ar y boch ddwywaith.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Poppy Hill: "Ni fydd ymddygiad rhywiol diangen ar y rheilffordd yn cael ei oddef o gwbl. Fe wnaeth gweithredoedd Maghdid synnu'r dioddefwr yn llwyr a gwneud iddo deimlo'n ofnus ac yn anghyfforddus dros ben.
"Os ydych chi'n dioddef trais ar y rheilffordd, neu'n dyst i drais ar y rheilffordd, rwy'n eich annog i'w riportio i ni drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”