Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:34 24/11/2022
Mae dyn 40 oed wedi cael ei ddedfrydu am reidio sgwter trydan ar brif ffordd tra'n feddw a gyda phlentyn, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Litvars Sunitis, o Crimpsall Road, Doncaster, yn euog i yrru tra'i fod wedi'i wahardd, gyrru heb yswiriant a gyrru tra dros y terfyn.
Cafodd ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis a'i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd gan ynadon Doncaster ar ddydd Gwener 11 Tachwedd.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu gordal dioddefwr o £154.
Clywodd y llys sut, tra ar batrôl am 10.30pm ar ddydd Llun 18 Gorffennaf, gwelodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Sunitis yn reidio sgwter trydan ar Trafford Way yng nghanol y lôn, gyda phlentyn yn dal ar y ffrâm.
Fe wnaethon nhw fflagio Sunitis i stopio, a oedd yn arogli'n gryf o alcohol ac a wnaeth gydsynio i brawf anadl ar ochr y ffordd a oedd yn dangos ei fod dros y terfyn ac fe gafodd ei arestio.
Fe wnaeth swyddogion gludo Sunitis i'r ddalfa a mynd â'i fab 10 oed i orsaf yr heddlu er mwyn i'r gwasanaethau cymdeithasol gwblhau gwiriadau diogelu.
Atafaelwyd yr escooter.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PS Philip McMurray: "Mae gweithredoedd Sunitis y noson honno'n anghredadwy. Mae mynd â'i fab 10 oed gydag ef ar y sgwter trydanyn yn arddangos sut y cafodd ei allu i wneud penderfyniadau ei rwystro'n ddifrifol gan yr alcohol yn ei system.
"Gallai hyn fod wedi arwain at ganlyniadau trasig. Nid yn unig y rhoddodd ei hun a'i blentyn mewn perygl mawr, ond hefyd defnyddwyr eraill y ffordd.
"Rwyf yn wir yn gobeithio ei fod nawr yn sylweddoli ffolineb ei weithredoedd a'r niwed y gallai fod wedi'i achosi."